Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg Andrew RT Davies wedi penderfynu camu o’r neilltu yn dilyn dos o’r ffliw a Covid-19 ac effaith hynny ar ei iechyd meddwl.

Bydd y cyn-arweinydd Paul Davies, AoS Preseli Sir Benfro, yn camu i’r adwy dros dro.

Mewn datganiad ar ei gyfrif Twitter fe ddywedodd Andrew RT Davies ei fod yn “cymryd brêc llwyr o waith i sicrhau fy mod yn gallu gwella’n llawn.”

“Effaith andwyol ar fy les meddyliol”

Doedd arweinydd y Ceidwadwyr ddim yn bresennol yng nghynhadledd y blaid ym Manceinion dros yr wythnos ddiwethaf wedi iddo ddweud ar wefannau cymdeithasol ei fod yn dioddef dos o’r “man flu”.

Ac yn ei ddatganiad heddiw mae’n dweud bod ei salwch wedi gwneud iddo flino’n eithriadol a chael “effaith andwyol ar fy les meddyliol” – a’i fod wedi ystyried a ddylai drafod y mater yn gyhoeddus.

Aiff ymlaen i ddweud: “… fel arweinydd rwy’n credu y dylech osod esiampl – mewn amseroedd da a drwg – ac rydw i yn gwybod bod nifer wedi straffaglu gyda’u lles meddyliol.”

“Fel nifer o ddynion, rydw i wastad wedi credu bod gen i darian anorchfygol,” meddai.

“Yn hynny o beth, ac ar orchmynion y doctor, mi fyddaf yn cymryd toriad llwyr o fy ngwaith i sicrhau fy mod i’n gallu gwella’n llwyr a bownsio nôl o’r trafferthion rydw i wedi profi dros y pythefnos diwethaf.”

Paul Davies i gymryd yr awennau

Cyn-arweinydd y blaid, Paul Davies, fydd yn camu i fewn yn ei le dros dro.

Bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fis Ionawr wedi iddo gael ei weld yn yfed gyda gwleidyddion eraill yn y Senedd, ddyddiau yn unig wedi i waharddiad alcohol ddod i rym mewn tafarndai oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Ar y pryd fe ddywedodd Paul Davies ei fod yn camu lawr “er mwyn fy mhlaid, fy iechyd a’m cydwybod fy hun”.

Yn dilyn hynny fe ddaeth Andrew RT Davies yn arweinydd ar 24ain Ionawr 2021.

Fe fuodd Andrew RT Davies hefyd yn arweinydd ar y blaid rhwng 2011 a 2018 cyn iddo ymddiswyddo yn dilyn gwahaniaethau gwleidyddol o fewn y blaid.

Dymuno’n dda

Fe ddywedodd Paul Davies ar ei gyfrif Twitter[Rydw i’n] dymuno’r gorau i ti, a gwellhad buan. Brysia wella”.

Hefyd, mae aelodau o bob plaid wedi datgan eu cefnogaeth, gydag Alun Davies, AoS Llafur dros Flaenau Gwent, yn dweud: “Rydym yn dymuno’n dda i Andrew RT Davies yn ei wellhad o hyn”.

Mae arweinwydd Plaid Cymru, Adam Price, a Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd wedi dymuno’n dda i Andrew RT Davies.

“Mae fy nheulu cyfan yn dymuno adferiad cyflyn iti Andrew,” meddai Jane Dodds.

A chan grybwyll trafodaeth yn y Senedd ddoe (6 Hydref), dywedodd Adam Price “Fe glywson ni gyfraniadau pwerus a phersonol am iechyd meddwl yn y Senedd ddoe.

“Mae siarad allan yn ddewr ac mi ddylai gael ei gymeradwyo. Fy nymuniadau gorau iti, Andrew.”