Mae gobaith na fydd Prydain  yn cael problemau gyda chyflenwi nwy yn ystod y gaeaf eleni.

Dywedodd yr adran o’r National Grid sy’n gyfrifol am drosglwyddo nwy y bydd gan y wlad fwy o nwy wrth gefn pe bai’r galw’n cyrraedd ei anterth, gan ddweud bod yna fynediad hyblyg i gyflenwad nwy o dramor.

Byddai hynny’n ddigon i bara o fis Hydref tan ddiwedd mis Mawrth, lle bydd y galw ar ei uchaf yn ôl arbenigwyr y National Grid.

Mae tua hanner y cyflenwad nwy ym Mhrydain yn cael ei ddefnyddio i gynhesu cartrefi, tra bod y chwarter arall er mwyn cynhyrchu trydan.

Daw’r neges o sicrwydd yn dilyn cyfnod o brynu tanwydd mewn panig dros yr wythnosau diwethaf, a adawodd nifer o orsafoedd yn sych.

Hefyd, roedd pryderon y byddai prisiau cynyddol, a’r gystadleuaeth ryngwladol am nwy yn achosi prinder y gaeaf hwn.

Nwy

Er nad yw cwmni’r National Grid yn cynhyrchu egni eu hunain, nhw sy’n gyfrifol am gyflenwi nwy a thrydan i dai pobol ledled Prydain.

Mae Ian Radley, cyfarwyddwr gweithrediadau’r system nwy’r cwmni, yn sicrhau’r cyhoedd y bydd digon o gyflenwad yn ystod y gaeaf.

“Bydd gennyn ni nwy wrth gefn ym mhob un o’r senarios o ran cyflenwi a galw,” meddai.

“Mae’r sefyllfa storio yn gadarnhaol wrth inni fynd i mewn i’r gaeaf, ac mae gennyn ni  offer ar gael i reoli unrhyw ofynion  y gallan ni ddod ar eu traws.”

Dywedodd y gweithredwr system nwy hefyd ei fod yn disgwyl i’r galw fod yn is na’r pum mlynedd diwethaf, i raddau helaeth oherwydd bod llai o bobol yn defnyddio nwy i gynhyrchu trydan wrth i fwy o bŵer gwynt gael ei adeiladu.

Trydan

Mae’r National Grid hefyd wedi sicrhau y bydd system drydan Prydain hefyd yn gallu ymdopi gyda galw cynyddol yn y gaeaf.

“Mae Rhagolwg y Gaeaf yn cadarnhau ein bod ni’n disgwyl bod â chapasiti digonol a’r offer angenrheidiol i gyrraedd y galw’r gaeaf hwn,” meddai pennaeth yr Electric System Operator, Fintan Slye.

“Mae’r cyfrifiadau ymhell o fewn y safon dibynadwyedd ac felly rydyn ni’n hyderus y bydd digon o gapasiti ar gael i gadw goleuadau Prydain ymlaen.”