Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi croesawu penderfyniad Senedd Cymru i sefydlu pwyllgor newydd i edrych ar gynydu nifer yr aelodau.

Bydd y ‘Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd’ o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, AoS Llafur dros Ogwr.

Yn dilyn y bleidlais o blaid ddoe fe ddywedodd y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol fod y pwyllgor yn “gam i’w groesawu ar gyfer darparu diwygiadau sydd eu hangen ar ein Senedd.”

Fe fydd y pwyllgor trawsbleidiol yn edrych ar:

  • Gyflwyno mesurau i wella amrywiaeth y Senedd;
  • Maint y Senedd yn nhermau nifer yr aelodau;
  • System ethol aelodau;
  • Creu system sy’n adolygu ffiniau etholiadol.

Fe ddywedodd y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ar eu Cyfrif twitter: “Mae’r cyhoeddiad heddiw ar Ddiwygio’r Senedd yn gam i’w groesawu wrth gyflwyno’r diwygiadau i’n senedd y mae arnom eu hangen mor enbyd.

“Rydym yn galw ar bob plaid i sicrhau eu bod yn cefnogi’r broses hon a chyda’n gilydd gallwn greu’r Senedd sydd ei hangen ar Gymru”

Mae galwadau eisoes wedi bod gan ymgyrchwyr ac Aelodau’r Senedd o blaid gynyddu’r aelodaeth.

Fis Mai fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod “brwdfrydedd cynyddol” dros Senedd i Gymru “yn addas i gyflawni ei chyfrifoldebau”.

Canfod tir cyffredin

Yn ôl Nia Thomas, llefarydd ar ran y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol mae’n gobeithio’n fawr y bydd y newidiadau yn cael eu rhoi mewn lle erbyn etholiadau Senedd Cymru 2026.

“Wedi hir ymaros mae angen diwygio yn fwy nag erioed a bod angen yn fwy nag erioed am Senedd gryfach, tecach a mwy amrywiol er mwyn cwrdd â gofynion syn wynebu Cymru,” meddai.

“Ond fe all newid dim ond digwydd os yw pleidiau yn fodlon cydweithio ar y peth – mae angen iddyn nhw ganfod tir cyffredin ar ffordd ymlaen.”

‘Consensws’

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y pwyllgor ei fod yn bwysig bod y mater yn cael ei ystyried ar sail drawsbleidiol.

“Mae’r pandemig coronafeirws wedi amlygu pwysigrwydd y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob plaid i sicrhau consensws ar sut rydym yn adeiladu Senedd gryfach i gynrychioli pobl Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.”

60 aelod i 90

Mae Pwyllgor Seneddol Ddiwygio Etholiadol eisoes yn bodoli sy’n gyfrifol dros gasglu tystiolaeth ar ddiwygio etholiadol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae yn 60 aelod yn y siambr, ond yn dilyn adroddiad y llynedd gan bwyllgor oedd yn cynnwys aelodau Llafur a Phlaid Cymru maen nhw’n argymell bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol ar y Senedd.

Dywedodd hefyd y dylai Aelodau’r Senedd gael eu hethol drwy system etholiadol fwy cyfrannol gydag atebolrwydd i’r cyhoedd sydd ag amrywiaeth yn rhan hanfodol ohoni.

Fe ddaeth y pwyllgor hwnnw i’r casgliad ym Medi 2020 fod yna dystiolaeth glir fod y Senedd ar hyn o bryd yn rhy fach.

Mae disgwyl i’r pwyllgor edrych ar y dystiolaeth sydd wedi ei chasglu hyd yma gan gyflwyno cynigion ar gyfer mesur i fynd gerbron y senedd erbyn mis Mai 2022.