Mae arweinwyr busnes wedi beirniadu araith Boris Johnson yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn hallt, gan ei gyhuddo o fod â diffyg cynllun economaidd clir.
Ar ddiwrnod olaf y gynhadledd ym Manceinion, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn dechrau ar y broses “anodd” o ailstrwythuro’r economi Brydeinig.
Gyda phrinder gweithwyr yn taro cadwyni cyflenwi, gan arwain at silffoedd gwag a chiwiau mewn gorsafoedd petrol, fe wnaeth y Prif Weinidog amddiffyn ei strategaeth o gyfyngu ar lafur rhad o dramor ar ôl Brexit.
Fe wnaeth hefyd fynnu y byddai’r drefn hyn maes o law yn creu “economi treth isel.”
Ond mae llawer o arweinwyr busnes wedi dweud bod ei gynlluniau’n golygu cyfyngu ar fewnfudo, a gall hynny arwain at chwyddiant uwch a chynyddu costau i brynwyr.
“Tomenni o gostau uwch”
Roedd Richard Walker, rheolwr gyfarwyddwr archfarchnad Iceland, yn honni bod y Llywodraeth yn meddwl bod busnesau’n gallu torri lawr ar yr holl gynnydd mewn costau.
“Mae’r bys yn cael ei bwyntio at fusnesau fel y dynion drwg, ond mae’n gymaint mwy na hynny,” meddai wrth The Times.
“Rydyn ni am dalu cymaint â phosib i’n pobol, ond dydy busnesau ddim yn sbwng diddiwedd sy’n gallu cadw i amsugno’r holl gostau ychwanegol hyn.
“Flwyddyn nesaf, fe fydd gennyn ni domenni o gostau uwch, wrth ystyried biliau ynni uwch, gyrwyr HGV ychwanegol, costau pecynnu.
“Rydyn ni ond yn gallu torri lawr ar hyn a hyn o’r costau, felly mae angen iddyn nhw ei sefydlogi.”
Plaid y busnesau bach?
Fe wnaeth Ffederasiwn y Busnesau Bach feirniadu’r araith hefyd, gan ddweud mai Llafur – nid y Ceidwadwyr – yw’r unig blaid sydd â “pholisi sydd o blaid busnesau bach.”
“Wrth edrych ar dymor cynadleddau’r pleidiau, dim ond un blaid o ddwy ddaeth allan gyda pholisi i fusnesau bach,” meddai Craig Beaumont, pennaeth materion allanol y Ffederasiwn wrth Times Radio.
“Dw i’n credu y dylai’r Llywodraeth fod yn edrych ar hynny ac yn mynd: ‘Wel, efallai ein bod ni wedi cymryd y grŵp hwn ychydig yn ganiataol’.
“Felly nawr, beth fydd y cynnig hwnnw i fusnesau bach? Beth fydd eu hymateb?
“Ar hyn o bryd does dim llawer o ddim byd, felly mae angen ymateb yn gryf iawn gyda’r gyllideb.”
Ymateb y Ceidwadwyr
Cafodd Jo Gideon, yr Aelod Seneddol Ceidwadol ar gyfer canol Stoke-on-Trent, ei holi ar raglen BBC Newsnight am yr anniddigrwydd gan arweinwyr busnes.
“Mae gennyn ni filiwn o swyddi gwag ar hyn o bryd ond mae gennyn ni ddiweithdra hefyd,” meddai.
“Pan aethon ni i mewn i’r pandemig, fe gafodd ei ragweld y byddai gennyn ni fwy na dwy filiwn yn ychwanegol yn ddi-waith na sydd gennyn ni’n arferol.
“Am hynny, dw i’n meddwl ei bod ni’n llwyddiannus, oherwydd y £400 biliwn a gafodd ei fuddsoddi i gadw pobl a busnesau i fynd.
“Dw i allan yna yn cwrdd â busnesau bob dydd a dw i’n clywed dau beth: maen nhw’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, a hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gynnig y trwch o swyddi, gan roi cefnogaeth, prentisiaethau a chynlluniau sbardun i gyflogi pobl newydd.
“Yn fy etholaeth fy hun, mae yna achos enfawr i fusnesau lleol ei gefnogi.”