Mae Cyngor Llywodraeth Leol Cymru wedi datgelu bod arweinwyr holl gynghorau Cymru a Chabinet Llywodraeth Cymru ynghyd mewn cyfarfod dydd Mercher (6 Hydref).

Mae’n debyg mai dyma’r cyfarfod cyntaf o’i fath i’w gynnal yn y Deyrnas Unedig.

Y bwriad oedd hyrwyddo mwy o gyd-drafod rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru a datblygu ymatebion ar y cyd i heriau allweddol.

Roedd yn canolbwyntio’n benodol ar yr argyfwng gofal cymdeithasol a newid hinsawdd.

Bu arweinwyr cyngor a gweinidogion yn cyfnewid syniadau ynglyn â recriwtio a chadw staff, modelau darparu gwasanaeth, a chyllid cynaliadwy, ynghyd â’r ymrwymiadau sydd eisoes wedi cael ei gwneud gan gynghorau yn cwmpasu pwrcasu, trafnidiaeth, adeiladau a defnydd tir.

“Hanesyddol”

“Roedd hwn yn gyfarfod hanesyddol sydd yn arwydd o’r parch o’r ddwy ochr rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac yn dangos partneriaeth sydd ddim i’w weld yn unman arall yn y Deyrnas Unedig,” meddai Arweinydd Cyngor Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan.

“Mae cynghorau a Llywodraeth Cymru yn rhannu ystod o flaenoriaethau sy’n rhan o ddatblygu gweledigaeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau yn ein cymunedau.

“Ymysg y blaenoriaethau mwyaf brys mae mynd i’r afael â gofal cymdeithasol, a delio gyda newid hinsawdd.

“Ledled Cymru, mae gwasanaethau cymdeithasol ar ben eu tennyn.

“Rhaid i ni ymateb i broblemau byr dymor ond mae yna hefyd  gwestiynau o ran y gweithlu ac yn strategol y gallwn ni ond eu hateb trwy weithio gyda’n gilydd.

“Nid rhywbeth i boeni amdano yn y dyfodol yw newid hinsawdd: mae’n cael effaith o’n cwmpas ni heddiw.”

“Hollbwysig”

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: “Rydyn ni wedi gweld, yn fyw iawn, dros y deunaw mis diwethaf y berthynas hollbwysig sydd wedi cael ei datblygu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i’n helpu ni trwy’r pandemig ac sydd wedi caniatáu i ni weithio gyda’n gilydd ar ran y bobol sydd wedi ein hangen ni.

“Yr her nawr yw i ganolbwyntio’r bartneriaeth honno ar y dasg o lunio adferiad.

“Yr hyn â’n cynhaliodd ni trwy’r pandemig oedd gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, undod a chydweithredu a oedd yn hanfod i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

“Yr ysbryd ‘Tîm Cymru’ hynny sy’n ein helpu ni i ddod trwy’r argyfwng Covid, a gall ein helpu ni trwy heriau yfory hefyd.

“Bydd datblygu ymatebion beiddgar, creadigol, arloesol ar y cyd yn ein helpu ni i gyflawni Cymru well.”

“Cyfle unigryw”

Ychwanegodd Rebecca Evans, Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol: “Cafwyd cyfle unigryw heddiw i holl arweinwyr llywodraeth leol a gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod ein huchelgeisiau ac i daclo gyda’n gilydd dau o’n heriau mwyaf sylweddol – gofal cymdeithasol a newid hinsawdd.

“Bu trafodaethau yn canolbwyntio ar uchelgeisiau strategol ac ymarferol i fwrw ati â’r gwaith ar unwaith ac yn y tymor hirach.

“Mae llawer i’w wneud, ond rydyn ni’n rhannu’r  un arddeliad ac ymroddiad clir i weithio’n agos gyda’n gilydd i ddarparu’r newid go iawn sydd ei angen.”