Mae Plaid Cymru yn galw am “sgwrs genedlaethol” ar ddefnydd cyffuriau anghyfreithlon.
Daw hyn wrth i Peredur Owen Griffiths, AoS Dwyrain De Cymru Plaid Cymru, gyhoeddi y bydd yn sefydlu grŵp trawsbleidiol ar “gamddefnyddio sylweddau”.
Datgelodd y newyddion mewn dadl fer i drafod sut y gallai Cymru ddatblygu system fwy effeithiol ar gyfer trin camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth.
Dywedodd ei fod am ddod ag arbenigwyr yn y maes at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau gwell canlyniadau i drin y rhai mewn angen gyda mwy o dosturi.
Defnyddiodd Portiwgal fel enghraifft o wlad a oedd â phroblem gyffuriau difrifol ond a newidiodd eu sefyllfa wael mewn cyfnod byr o amser.
“Mae marwolaethau cyffuriau yn ystyfnig o uchel mewn rhannau helaeth o’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni gofio, y tu ôl i bob marwolaeth, fod cost ddynol sy’n effeithio ar deulu a ffrindiau am y blynyddoedd sy’n dilyn.
“Fel gyda phob ystadegau, ni ddylem fyth golli golwg ar y gost ddynol i gymdeithas ac i’n cymunedau.
“Ni ddylem ychwaith anghofio am yr hafog y mae’r polisi hwn yn ei gael ar wledydd sy’n cynhyrchu cyffuriau lle mae’r frwydr yn cael ei ymladd yn ddyddiol rhwng cartelau.
“Mae Mecsico yn enghraifft wych o wlad sydd wedi’i dadsefydlogi o ganlyniad i’r polisi cyffuriau hwn.”
“Sgwrs genedlaethol”
“Yr hyn yr wyf yma i’w wneud ar gyfer heno hon yw dechrau sgwrs genedlaethol sy’n ceisio sefydlu system well a mwy tosturiol o drin pobl sy’n gaeth i gyffuriau.
“Mae angen i ni ddeall profiad y bobol hyn a rhoi ystyriaeth briodol i bob ateb posib.
“Pa bynnag blaid rydych chi’n ei chynrychioli yn y Senedd, neu beth bynnag yw eich barn am gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth, rwy’n gobeithio y gallwn gytuno nad yw’r sefyllfa bresennol yn gweithio.
“Os ydych chi’n dal heb eich argyhoeddi, gofynnwch i chi’ch hun pam nad yw’r rhyfel ar gyffuriau wedi dod i ben genedlaethau’n ôl os oedd yn gweithio?”
“Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwegian”
“Amcangyfrifir hefyd bod alcohol yn arwain at tua 60,000 o dderbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru, gan gostio tua £159 miliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwegian o dan y pwysau, siawns y dylai dod o hyd i ffyrdd o ddelio ag effeithiau camddefnyddio alcohol fod yn flaenoriaeth.
“Rwyf am i ni gyrraedd sefyllfa lle mae pobol sy’n cymryd y cam dewr o ofyn am help i oresgyn dibyniaeth – boed hynny ar gyfer cyffuriau neu alcohol – yn gwybod y bydd cymorth ar gael.”
“Datganoli pwerau dros gyfiawnder”
“Fy ngobaith i – a’m plaid – yw bod Cymru yn y pen draw yn cael datganoli pwerau dros gyfiawnder i Gymru, a phan fyddwn yn gwneud hynny, ein bod yn llunio system sy’n dosturiol, yn lleihau niwed ac yn rhyddhau’r gafael sydd gan lawer o gangiau troseddol ar y gwan a’r bregus yn ein cymunedau,” meddai i orffen.