Mae ymgyrchwyr wedi ffurfio grŵp newydd i ymgyrchu yn erbyn gollwng gwastraff o hen orsaf niwclear yn Aber Hafren.

Mae cynghrair Bae Geiger wedi ymuno â grwpiau o Loegr er mwyn ffurfio cynghrair ymgyrchu Cofiwch Môr Hafren.

Galwa’r ymgyrchwyr ar y cwmni ynni Ffrengig EDF (Électricité de France), i beidio â gollwng y gwastraff o hen orsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn y dyfroedd rhwng Cymru a Lloegr.

Maen nhw’n galw ar y Sefydliad Rheolaeth Forwrol (Marine Management Organisation, MMO) i ddiddymu trwydded EDF i ollwng y gwastraff.

Yn ôl y grŵp, mae’r caniatâd yn mynd yn groes i rwymedigaethau rhyngwladol i amddiffyn amgylcheddau morwrol megis Aber Hafren.

Maen nhw hefyd yn galw ar Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Deyrnas Unedig, George Eustice, i gydnabod y gwaharddiad ar ‘ddympio’ sy’n niweidio Ardal Forwrol Warchodedig, a rhoi cyfarwyddyd addas i’r MMO.

Cefndir

Roedd EDF wedi gwneud cais am drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ollwng y gwastraff oddi ar arfordir Cymru, ond symudon nhw at safle yn Portishead ger Bryste yn sgil gwrthwynebiad a dadl yn y Senedd ar y mater.

Yn 2018, fe wnaeth EDF ollwng 120,000 tunnell o fwd i ddyfroedd Cymru ar ôl cael caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a llynedd fe wnaethon nhw gais newydd i ollwng 780,000 tunnell ychwanegol yn yr un lle.

Mae cannoedd ar filoedd o dunelli o wastraff yn cael ei symud o safle’r hen orsaf niwclear er mwyn adeiladu system oeri ddadleuol dan y dŵr, a fydd yn lladd miliynau o bysgod a dinistrio ecoleg yr aber yn y pen draw, meddai’r ymgyrchwyr.

Mae gwyddonwyr hefyd yn rhybuddio bod y gwastraff sy’n cael ei symud yn cynnwys llygredd ag elfennau cemegol.

Bwriad cynghrair Cofiwch Môr Hafren yw cael gwrthwynebwyr i weithredu yn erbyn y cynlluniau, sydd fod i ailddechrau ym mis Ebrill 2022.

Bydd aelodau’r gynghrair yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cynlluniau, gyda’r adolygiad barnwrol yn dadlau bod gan yr MMO ddim y pŵer cyfreithiol i newid y drwydded er mwyn caniatáu i’r mwd gael ei ollwng yno.

Mae’r grŵp yn honni eu bod nhw wedi methu ag asesu’r effaith ar rai rhywogaethau sydd mewn perygl, a’u bod nhw wedi torri rheolau ynghylch ansawdd dŵr.

“Diystyrwch”

Galwa Cofiwch Môr Hafren ar drigolion a busnesau o amgylch Ardaloedd Morwrol Gwarchodedig Aber Hafren, gan gynnwys de-ddwyrain Cymru hyd at y Barri, i gofrestru eu gwrthwynebiad i’r cynllun.

“Mae’r MMO wedi bod yn ddiofal wrth ganiatáu i wastraff sydd wedi’i lygru gan weithredoedd ynni niwclear a diwydiannol gael ei ollwng yn Portishead ac yng ngolwg arfordir Cymru,” meddai Cian Ciarán ar ran Cofiwch Môr Hafren.

“Maen nhw’n gwybod y bydd y mwd llygredig yn cyrraedd ein traethau a llethrau mwd ein hafonydd llanw.

“Dydyn ni ddim yn gwybod faint o hwn sy’n allyrru ac yn mynd i’r awyr, gan gyrraedd cartrefi a thir fferm, oherwydd nad yw’r asesiadau angenrheidiol wedi cael eu gwneud.

“Mae’r dympio yn dangos diystyrwch tuag at bobol Aber Hafren, yn Saeson a Chymry, yn ogystal â diystyrwch tuag at gadwraeth a buddiannau pysgota.”

Ymgyrchwyr wedi siomi â phenderfyniad i ollwng ‘mwd niwclear’ ym Môr Hafren

Gwern ab Arwel

Mae cwmni trydan EDF Energy yn bwriadu gollwng mwd o safle Hinkley Point C i’r môr oddi ar arfordir Gwlad yr Haf