Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi mwy na gweddill Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rhwng mis Medi 2020 a mis Medi 2021, fe wnaeth prisiau godi 11.5%, tra bod y canrannau rhanbarthau eraill Prydain yn is.
Mae hynny 4.1% yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol, wedi i brisiau eiddo ar draws Prydain godi 7.5%, yn ôl banc Halifax.
Hefyd y mis hwn, fe gafodd y pris tai cyfartalog uchaf erioed ei gofnodi yn y Deyrnas Unedig, gyda thŷ cyfartalog yn costio £267,587 erbyn hyn.
Anghynaladwy
Ym mis Awst, fe wnaeth llefarydd tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, rybuddio bod sefyllfa’r farchnad dai yn “hollol anghynaladwy” erbyn hyn.
“Mae pobol yn cael eu prisio allan o’u cymunedau ar gyflymder brawychus,” meddai bryd hynny.
“Ac nid y Gymru wledig ac arfordirol yn unig sy’n dioddef. Mae’r cymoedd hefyd. Mae enillion wythnosol gros canolrifol yn Nhorfaen, er enghraifft, yn ddim ond £554.58 ond mae wedi gweld un o’r cyfraddau gwerthu uchaf.
“Yn y cyfamser, mae disgwyl i bobol ifanc roi miloedd o bunnoedd mewn taliadau er mwyn bod â siawns o brynu eu cartref cyntaf yn eu cymuned leol. Mae’n afrealistig, yn annheg, ac yn gwbl anghynaladwy.
“Yn syml, nid yw’r farchnad dai yn adlewyrchu gallu pobol leol i brynu cartrefi yn eu cymunedau. Ni all y Llywodraeth gladdu eu pennau yn y tywod na chuddio tu ôl i ‘ymgynghoriadau’ neu ‘gynlluniau peilot’.
“Mae angen ymyrraeth frys arnom – yn gyflym – i reoleiddio’r farchnad a mynd i’r afael â’r argyfwng hwn unwaith ac am byth, er mwyn ein cymunedau a’u dyfodol.”