Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â threfniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dynnu 47 o wledydd oddi ar y rhestr goch.

Bydd Colombia, Gweriniaeth Dominica, Ecuador, Haiti, Panama, Periw a Venuzuela yn aros ar y rhestr goch, a’r lleill yn cael eu tynnu oddi arni.

Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn “pwyso’n gyson” ar Lywodraeth San Steffan i gymryd camau rhagofalus o ran teithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno Covid ac osgoi amrywiolion newydd.

Ond gan y bydd y rhan fwyaf o bobol sy’n teithio dramor yn gwneud hynny drwy Loegr, ac am fod Cymru’n rhannu ffin agored â Lloegr, dydi hi ddim yn ymarferol i Gymru ddatblygu polisi ei hun, meddai.

Felly, er bod Llywodraeth Cymru yn “bryderus am y risgiau sy’n gysylltiedig â theithio”, bydd y newidiadau’n dod i rym am 4yb 11 Hydref.

“Cynyddu’r risg”

Dydi’r newidiadau hyn ddim yn cael eu gwneud heb risg, meddai Eluned Morgan, mewn datganiad.

“Maent yn cynyddu’r cyfle i heintiadau newydd ac amrywiolion newydd, na fydd y brechlynnau’n effeithiol yn eu herbyn, gyrraedd y Deyrnas Unedig a Chymru,” meddai.

“Rydym yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi sicrwydd y bydd yn cynnal systemau gwyliadwriaeth cyson a chadarn sy’n gallu canfod amrywiolion peryglus yn gynnar ac y gellir gwyrdroi’r mesurau i lacio cyfyngiadau yn gyflym pe bai’r sefyllfa yn gwaethygu’n rhyngwladol.

“Rydym yn pryderu am effaith gronnol y risg sy’n gysylltiedig ag ehangu teithio, yn enwedig o wledydd risg uchel.

“Mae hyn yn cynnwys y lleihad mawr yn nifer y gwledydd sydd ar y rhestr goch a’r awgrym bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried llacio’r rheolau cwarantin yn sylweddol ar gyfer gwledydd ar y rhestr goch a chyflwyno’r defnydd o brofion llif unffordd ar gyfer teithwyr sy’n dychwelyd.

“Mae’r holl fesurau hyn gyda’i gilydd yn cynyddu’r risgiau o gyflwyno amrywiolyn newydd i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn sylweddol.”

Golyga’r newidiadau bod Mecsico, Gwlad Thai a De Affrica yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr goch, ac roedd rhai o weithwyr y diwydiant teithio wedi dweud y byddai tynnu’r gwledydd hyn oddi ar y rhestr yn “codi hyder dros y sector ac ymysg cwsmeriaid”.