Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynlluniau newydd “i gadw Cymru ar agor yn ddiogel yn ystod y gaeaf”.

Yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd, mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau gweithredu “allweddol” a allai gael eu rhoi ar waith dros y gaeaf er mwyn rheoli lledaeniad y feirws.

Ar gyfer y tair wythnos nesaf, bydd Cymru’n parhau ar lefel rhybudd sero.

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau, bydd pob busnes ar agor a bydd y lefel isaf o gyfyngiadau ar waith yng Nghymru.

Wrth siarad cyn y gynhadledd i’r wasg heddiw (8 Hydref), dywedodd Mark Drakeford bod “gaeaf heriol iawn o’n blaenau”, ac mai’r brechlyn yw’r “amddiffyniad gorau” sydd gennym yn ei erbyn.

Senarios

Mae’r fersiwn diweddaraf o’r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws yn cyflwyno dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros y gaeaf.

O dan y senario gyntaf, sy’n cael ei enwi’n ‘Covid Sefydlog’, mae Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a’r gaeaf, gyda phob busnes yn gallu agor.

Mae Llywodraeth Cymru’n credu mai hon yw’r senario fwyaf tebygol, wrth i bobol ddod i arfer byw â’r feirws a gadael y pandemig yn raddol gan gyrraedd sefyllfa lle bydd y feirws yn dod yn salwch tymhorol.

O dan y senario hon, os bydd niferoedd achosion yn gostwng, gallai mesurau gael eu llacio ymhellach fel ymateb i hynny.

Pe bai achosion yn codi, gallai rhai mesurau presennol gael eu cryfhau er mwyn diogelu iechyd pobol.

Mae’r ail senario yn cael ei alw’n ‘Covid Brys’, ac wedi’i chynllunio i ymateb i unrhyw newidiadau sydyn yn y sefyllfa.

Gallai’r newidiadau hyn gael eu hachosi gan ymddangosiad amrywiolyn newydd, fyddai’n lledaenu’n sydyn, neu gallai’r lefelau imiwnedd sydd wedi’u hadeiladu yn sgil y brechlyn ostwng.

O ganlyniad, bydd y pwysau’n cynyddu, a bydd perygl y gallai’r Gwasanaeth Iechyd fod dan ormod o bwysau.

Mewn senario felly, byddai’r system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael ei defnyddio mewn modd cymesur â’r sefyllfa i ddiogelu iechyd y cyhoedd, rheoli lledaeniad yr haint, a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru’n nodi mai dim ond pan na fydd unrhyw opsiwn arall ar ôl y bydd y lefelau rhybudd a’r cyfyngiadau’n cael eu rhoi mewn grym.

Gofynna Llywodraeth Cymru wrth bobol ddiogelu Cymru drwy:

  • Gael brechiadau Covid-19, gan gynnwys y brechlyn atgyfnerthu pan fyddwch yn cael gwahoddiad.
  • Cymryd prawf a hunanynysu os oes gennych symptomau.
  • Cofio eich bod fwy diogel tu allan na thu mewn.
  • Cadw pellter lle bo hynny’n bosib.
  • Golchi dwylo’n rheolaidd.
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.
  • Sicrhau bod digon o awyr iach mewn mannau dan do.
  • Gweithio o gartref pan fo hynny’n bosib.
  • Defnyddio pas Covid mewn clybiau nos a digwyddiadau mawr.

“Gaeaf heriol”

“Mae gaeaf heriol iawn o’n blaenau ni,” meddai Mark Drakeford. “Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd y ffliw yn dychwelyd y gaeaf hwn.”

“Y brechlyn yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym ni o hyd yn erbyn y coronafeirws. Y mwyaf o bobl a fydd yn cael eu brechu’n llawn, y gorau oll fydd ein siawns o reoli lledaeniad y feirws ofnadwy hwn.

“Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy’n cael brechiadau COVID-19 ar draws y grwpiau oedran a’r grwpiau blaenoriaeth yn ogystal â chyflwyno’r brechiad atgyfnerthu. Rydyn ni hefyd yn annog pob un sy’n gymwys i fynd i gael y brechiad rhag y ffliw eleni.

“Mae amrywiaeth o fesurau eraill y gallwn ni i gyd eu cymryd hefyd i ddiogelu ein hunain a’n teuluoedd a’n ffrindiau – mesurau fel golchi ein dwylo, cwrdd â llai o bobl a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

“Mae’r mesurau hyn wedi ein helpu ni i gadw’n ddiogel drwy gydol y pandemig a byddan nhw hefyd yn helpu i’n diogelu rhag feirysau eraill y gaeaf, fel y ffliw a heintiau anadlol eraill.”