Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod taclo tlodi plant yn heriol yn wyneb toriadau Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “atal” Llywodraeth Cymru “rhag delio â’r broblem ar bob cyfle”.
Daw hyn wedi i Bwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd ddweud bod 31% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, a bod gordewdra ymhlith plant yn gysylltiedig ag amddifadedd.
“Rydyn ni’n gwybod bod Credyd Cynhwysol ar fin cael ei dorri – £20 yr wythnos,” meddai Eluned Morgan wrth y pwyllgor.
“Mae hynny’n mynd i frifo llawer o blant yng Nghymru, yn enwedig [mewn] etholaethau lle mae lefelau enfawr o dlodi.”
Cost tanwydd yn cynyddu
Fe gyhoeddwyd ddoe (7 Hydref) bod dros filiwn o aelwydydd Prydain yn debygol o ddioddef yn sgil tlodi tanwydd y gwanwyn nesaf, yn ôl elusen National Energy Action.
Roedd sylwadau Eluned Morgan yn ymateb i gwestiwn gan Elizabeth “Buffy” Williams, yr Aelod Llafur dros y Rhondda, ynglyn a beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau tlodi plant a gordewdra.
“Rydyn ni’n gweld cynnydd mewn prisiau tanwydd ac ynni, ac rydyn ni’n gweld argyfwng costau byw’r Torïaid yn dechrau brathu’n barod, ac mae’n mynd i waethygu,” meddai.
“Mae hyn yn anodd iawn i ni tra bod y Torïaid mewn grym yn San Steffan, yn gwneud y mathau hynny o doriadau.
“Rwy’n credu bod y toriadau sy’n cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth Dorïaidd yn gwbl annerbyniol.”