Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod asbestos mewn ysgolion yn cael ei fonitro, a’i waredu.
Wrth holi’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, gofynnodd Sian Gwenllian AoS Plaid Cymru: “Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu cynghorau sir ac ysgolion i fonitro, ac, yn bwysicach, i gael gwared ar asbestos?”.
“Mi fyddwch chi’n gwerthfawrogi bod yr undebau yn benodol yn gofyn am weithredu brys ar y mater yma,” meddai Sian Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru.
60% ysgolion Cymru ag asbestos
Yn ddiweddar, daeth i’r amlwg bod asbestos yn bresennol mewn 60% o ysgolion Cymru, sy’n cyfateb i fwy na 900 o ysgolion ledled y wlad.
Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau hyn yn cael eu harolygu yn gyson, ond mae rhai arolygon wedi dyddio ac yn aml mae amheuon bod asbestos yn yr adeiladau er nad oes gwybodaeth bendant.
Ers 1999 mae asbestos wedi’i wahardd gan fod y ffibrau yn gysylltiedig â nifer o afiechydon fel cancr mesothelioma.
Er y gwaharddiad, mae’n parhau i fodoli mewn nifer o adeiladau cyhoeddus – gan gynnwys ysgolion ac ysbytai a gafodd eu codi neu eu hailwampio yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Os yw’n cael ei drin yn ofalus dydy asbestos ddim yn beryglus, dim ond wrth anadlu’r ffibrau ohono y mae’n gallu bod yn niweidiol.
Arolwg
Mae Llywodraeth Cymru nawr yn gorchymyn bod rhaid i bob ysgol gael arolwg diweddar – un sy’n nodi a oes asbestos yn yr adeilad.
Mae Jeremy Miles wedi dweud wrth ysgolion am fanteisio ar y Grant Cefnogi Refeniw sydd ar gael trwy awdurdodau lleol.
“Rydyn ni’n gweithio gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac ystadegau Cymru i gefnogi arfer da wrth ddelio ag asbestos mewn ysgolion,” meddai.
“Rydyn ni hefyd yn darparu canllawiau penodol i awdurdodau lleol i’w helpu nhw i fynd i’r afael â’u cyfrifoldebau nhw o ran monitro, a, phan mae angen hynny, cael gwared ar asbestos yn eu hadeiladau nhw.”
Eisoes mae undebau addysg wedi galw ar y Llywodraeth i weithredu er lles iechyd a diogelwch disgyblion a phlant.
Dywed David Evans, Ysgrifennydd Cymru undeb addysg yr NEU, bod “cael cymaint o asbestos yn ysgolion Cymru yn frawychus”.
“Rydyn ni’n awyddus i gael gwybod beth yw cynlluniau pob awdurdod lleol i gael ei wared yn ddiogel, dyw hyn ddim yn dderbyniol bellach,” meddai.