Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno y dylid galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grym i Lywodraeth Cymru allu creu gwyliau banc i Gymru.
Roedd y Cynghorydd Plaid Cymru dros Landderfel, Elwyn Edwards, wedi cynnig bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i greu Gŵyl Banc swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae Dydd Gŵyl Andrew a Dydd Gŵyl Padrig eisoes yn wyliau banc swyddogol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond does gan Gymru ddim mo’r grym i benodi gwyliau banc eu hunain.
Yn 2014, gofynnodd y Prif Weinidog Carwyn Jones i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ystyried gwneud 1 Mawrth yn ŵyl banc ond cafodd ei wrthod.
Ddoe (7 Hydref), pleidleisiodd holl gynghorwyr Gwynedd o blaid cynnig Elwyn Edwards i ddatganoli’r pŵer i Gymru drwy Ddeddf Bancio a Chytundebau Ariannol 1971.
“Dim synnwyr”
“Dylai Cymru gael yr un hawl â’r Alban a Gogledd Iwerddon i nodi diwrnod ein nawddsant, Dydd Gŵyl Ddewi, yn ŵyl banc cenedlaethol,” yn ôl y Cynghorydd dros Landderfel, ger y Bala, Elwyn Edwards.
“Does dim synnwyr nad yw’r grym gennym ni, fel gwlad, i benderfynu ar ddyddiau sydd o bwys cenedlaethol i’n hanes, treftadaeth a’n hiaith ni ein hunain.
“Dwi’n falch iawn bod cefnogaeth ar lawr y cyngor i’r cais yma ac yn falch hefyd bod cabinet y cyngor am ystyried cydnabod Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol i’r gweithlu trwy roi diwrnod o wyliau iddynt,” ychwanegodd Elwyn Edwards.
“Bydd angen edrych yn fanylach yng nghyswllt yr ysgolion a’r gweithlu gofal, gan eu bod yn wasanaethau hanfodol a phwysig. Wrth gwrs, rhaid cofio hefyd bod y diwrnod yn cael ei ddathlu yn ein hysgolion.
“Mae Gwynedd yn arwain y ffordd ym maes iaith a diwylliant, felly mae hi’n gydnaws ein bod ni fel cyngor yn ymchwilio i ymarferoldeb hyn, ac yn annog cynghorau eraill ledled Cymru i ddilyn yr un trywydd.
“Gwnewch y pethau bychain, oedd neges Dewi Sant. Ein gobaith ni rŵan yw y gall Llywodraeth San Steffan wneud un peth bach a all droi i fod yn rhywbeth mawr a phwysig i ni yma yng Nghymru. Mae’n hen bryd i ni gael hawliau i lywodraethu drosom ein hunain. Byddwn yn parhau â’r frwydr.”
“Cywilyddus”
Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys, yr aelod cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol, yn cefnogi’r cynnig.
“Dwi’n falch bod y Cynghorydd Elwyn Edwards wedi cyflwyno’r cynnig yma ac yn gefnogol iawn i’r egwyddor,” meddai’r Nia Jeffreys sy’n cynrychioli Plaid Cymru dros ddwyrain Porthmadog, ac â chyfrifoldeb dros faterion staffio ar y cabinet.
“Mae hi’n gywilyddus nad oes gan Gymru y pŵer i benderfynu ar ein gwyliau banc ein hunain – yr unig wir ateb i ni yw annibyniaeth!”
“Yn amlwg, mae nifer o fanylion cyllidol i’w hystyried cyn y gellir gwireddu’r egwyddor yma i staff y Cyngor – byddaf yn holi’r adran i gychwyn ar y gwaith cyn gynted â phosib er mwyn dod a’r mater o flaen y Cabinet.”