Mae cynghorydd yng Ngwynedd yn cynnig bod gweithlu’r awdurdod lleol yn cael diwrnod o wyliau gyda thâl ar 1 Mawrth bob blwyddyn.
Bydd Elwyn Edwards, sy’n cynrychioli ward Llandderfel, hefyd yn galw ar y cyngor i wthio ar Lywodraethau Cymru a Phrydain i ffurfio Gŵyl Banc swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae Dydd Gŵyl Andrew a Dydd Gŵyl Padrig eisoes yn Wyliau Banc swyddogol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond does gan Lywodraeth Cymru mo’r grym i benodi eu gwyliau banc eu hunain, er gwaethaf ymdrechion parhaus i sicrhau hynny.
Yn 2014, fe wnaeth cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ofyn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ystyried gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl Banc, ond fe gafodd hynny ei wrthod.
Roedd Cyngor Ynys Môn wedi dechrau cynllun tebyg i roi gwyliau gyda thâl i staff yr awdurdod ar 1 Mawrth, ond mae hynny bellach wedi dod i ben.
Galwad
“Ddylen ni ddathlu nawddsant ein gwlad a’n diwrnod cenedlaethol yn yr un modd ag y mae’r Alban ac Iwerddon yn dathlu eu rhai nhw,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Edwards.
“Mae’n hen bryd i ni ddilyn yr un llwybr, sydd hefyd yn cynnig neges glir ynglŷn â’n statws fel gwlad ar wahân.
“Dylai San Steffan fod yn gadael i Lywodraeth Cymru benderfynu, ond o safbwynt Cyngor Gwynedd, rwy’n gwerthfawrogi y bydd ffactorau o ran costau cyn dyfarnu’r diwrnod i ffwrdd ychwanegol i staff.
“Ond yn sicr dylen ni gael yr un hawliau â’n cefndryd Celtaidd.”
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod y mater yn eu cyfarfod llawn ar ddydd Iau, 7 Hydref.