Bydd yr asgellwr rhyngwladol Josh Adams yn dychwelyd i chwarae dros Gaerdydd oddi cartref yn erbyn y Gweilch heno, ddydd Sadwrn (2 Hydref).

Hon fydd gêm gystadleuol gyntaf Adams ers taith y Llewod yn Ne Affrica, lle chwaraeodd y gêm olaf dyngedfennol.

Asgellwr Cymru oedd prif sgoriwr y Llewod yn ystod y daith, gan groesi wyth gwaith mewn pum gêm.

Mae Rhys Priestland hefyd wedi cael y golau gwyrdd gan feddygon Caerdydd, ar ôl iddo gael ei dynnu oddi ar y cae yn erbyn Connacht nos Wener ddiwethaf (24 Medi), ar ôl cael cnoc i’w wyneb.

Bydd y cefnwr Max Nagy o Loegr yn cychwyn am y tro cyntaf i’r Gweilch, gan gymryd lle Dan Evans.

Mae Rhys Webb a Gareth Anscombe yng nghrysau rhifau 9 a 10 unwaith eto i’r Gweilch, gyda Webb yn gapten.

Bydd cic gyntaf y gêm yn Stadiwm Swansea.com am 7:35 dydd Sadwrn, 2 Hydref, ac mae hi’n fyw ar sianel Premier Sports 1, gydag ailddangosiad llawn ohoni ar S4C am 9:45.

Holi’r Hyfforddwyr

Mae Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd, yn “edrych ymlaen” at yr ornest.

“Fe wnaethon ni chwarae yn erbyn y Gweilch tuag at ddiwedd y tymor diwethaf yng Nghwpan yr Enfys, ond mae hon yn gêm gynghrair go-iawn,” meddai.

“Maen nhw wedi bod ar y blaen yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf, ac maen nhw’n edrych yn dîm o ansawdd da iawn a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau i gael canlyniad i lawr yno.

“Maen nhw’n dda iawn yn y blaen ac rydyn ni’n ymwybodol o’r heriau y bydd y darnau gosod ar y penwythnos yn cynnig.

“Mae yna gwpl o newidiadau wedi bod i’n pymtheg cychwynnol, ond fel dw i wedi dweud o’r blaen, gêm garfan yw hon, a bydd angen i bawb, o rif un i 23, chwarae rhan bwysig yn y perfformiad.”

Roedd Toby Booth, Prif Hyfforddwr y Gweilch, hefyd yn llawn canmoliaeth i’w wrthwynebwyr.

“Rwy’n adnabod Dai Young yn dda o’i ddyddiau gyda Wasps yn yr Uwch Gynghrair [yn Lloegr],” meddai.

“Felly rydyn ni’n gwybod pa fath o dîm maen nhw eisiau bod o dan Dai a gwelon ni pa mor dda oedd eu perfformiad  y penwythnos diwethaf.

“Gall Connacht fod yn dîm ystyfnig, ac mae’n drawiadol iawn bod [Caerdydd] wedi llwyddo i gael buddugoliaeth o bum pwynt.

“Rydyn ni’n gwybod bod angen i ni fod yn union lle mae angen i ni fod ddydd Sadwrn.”

Y Timau

Y Gweilch: Max Nagy, Mat Protheroe, Michael Collins, Owen Watkin, Luke Morgan, Gareth Anscombe, Rhys Webb (capten); Nicky Smith, Sam Parry, Tomas Francis, Bradley Davies, Rhys Davies, Will Griffiths, Jac Morgan, Morgan Morris.

Mainc: Elvis Taione, Rhodri Jones, Tom Botha, Adam Beard, Ethan Roots, Reuben Morgan-Williams, Josh Thomas, Tiaan Thomas-Wheeler.

Gleision Caerdydd: Hallam Amos; Owen Lane, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Josh Adams; Rhys Priestland, Tomos Williams; Rhys Carré, Kirby Myhill, Dillon Lewis, Seb Davies, Matthew Screech, Josh Turnbull (capten), Ellis Jenkins, James Ratti.

Mainc: Liam Belcher, Corey Domachowski, Dmitri Arhip, Rory Thornton, Will Boyde, Lloyd Williams, Ben Thomas, Matthew Morgan.