Mae’r batiwr 25 oed Nick Selman wedi gadael Clwb Criced Morgannwg am resymau personol.
Mewn datganiad gan y sir, dywed y chwaraewr a gafodd ei eni a’i fagu yn Awstralia fod y cyfnod Covid-19 wedi bod yn anodd iddo, ac yntau wedi profi’n bositif fis Mehefin a gorfod hunanynysu’n ddiweddarach yn y tymor ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif arall o fewn y garfan.
Ymunodd Selman â Morgannwg yn 2016, gan chwarae mewn 61 o gemau dosbarth cyntaf i’r sir.
Sgoriodd e gyfanswm o 2,863 o rediadau a tharo saith canred.
Chwaraeodd e 24 o gemau ugain pelawd ac 19 o gemau Rhestr A, ac roedd e’n aelod o’r tîm gododd dlws Cwpan Royal London y tymor hwn.
Yn ystod yr ymgyrch, sgoriodd e 140 heb fod allan mewn gêm anghyflawn yn erbyn Swydd Gaerlŷr, 92 yn erbyn Swydd Efrog a 59 yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Essex, gan orffen yn brif sgoriwr rhediadau’r gystadleuaeth.
Mae cytundebau tri chwaraewr arall – Andrew Salter, Jamie McIlroy a Tom Cullen – hefyd wedi dod i ben gyda’r sir ond does dim cadarnhad eto a fyddan nhw’n aros.
‘Cyfraniadau arwyddocaol’
“Hoffwn ddiolch i Nick am ei ymdrechion ers iddo ymuno â’r clwb,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Chwaraeodd e ran bwysig yn ein buddugoliaeth yng Nghwpan Royal London ac mae e wedi gwneud cyfraniadau arwyddocaol i Forgannwg ar y cae ac oddi arno yn ystod ei gyfnod yma.
“Mae pawb yn y clwb yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”
‘Diolchgar’
“Dw i wedi mwynhau fy amser gyda Morgannwg ac yn ddiolchgar am y cyfleoedd dw i wedi’u cael gyda’r clwb,” meddai Nick Selman.
“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd o fod i ffwrdd oddi wrth fy ffrindiau a’r teulu yn Awstralia, a dw i’n teimlo bod nawr yn amser da i gamu ’nôl ac ailasesu fy nghamau nesaf o safbwynt personol a phroffesiynol.”
Darllenwch gyfweliad cyntaf Nick Selman â golwg360:
O’r Gabba i’r Swalec: Croesi’r ffin o’r AFL i’r byd criced
Darllenwch ragor: