Mae Nick Selman wedi troi ei gefn ar yr AFL yn Brisbane i ddod i Gymru”]Bron iawn ers sefydlu rygbi a chriced yng Nghymru, mae llu o chwaraewyr wedi dilyn gyrfa yn y ddwy gamp a rhai ohonyn nhw wedi cyrraedd y llwyfan rhyngwladol yn y naill neu’r llall.
Ymhlith enwogion Clwb Criced Morgannwg sydd hefyd wedi creu argraff yn y byd rygbi mae Gilbert Parkhouse, Keith Jarrett, Alan Rees a Wilf Wooller.
Ond mae un o’r wynebau newydd yng ngharfan Morgannwg y tymor hwn yn ei gael ei hun mewn sefyllfa unigryw ar ôl dewis criced dros gamp o fath gwahanol.
Ac yntau’n 20 oed, mae Nick Selman wedi dod i Gymru ar ôl troi ei gefn ar bêl-droed Awstralaidd.
Y dyddiau cynnar
Yn 15 oed, roedd Selman yn cael ei ddisgrifio gan y gymuned bêl-droed Awstralaidd fel seren ddisglair ifanc ac yntau ar drothwy sicrhau lle yn academi’r Brisbane Lions, sy’n un o brif dimau’r wlad.
Er bod ei gyfyng gyngor yn amlwg bum mlynedd yn ôl, fe roesai’r argraff mai i gyfeiriad pêl-droed Awstralaidd ac i gynghrair yr AFL y byddai’n mynd.
Ond ac yntau’n 18 oed yn 2013, roedd ei dro pedol yn gyflawn ac roedd ei sylw wedi troi unwaith ac am byth at griced. Eglurodd ei resymau wrth Golwg360.
“Pan o’n i’n bymtheg ac yn un ar bymtheg oed, ro’n i yn Academi’r Brisbane Lions, sy’n un o dimau mawr yr AFL. Roedd rhaid i fi benderfynu beth o’n i am ei wneud, pa un ai aros gyda chriced fyddwn i neu’r AFL,” meddai.
“O ran pêl-droed Awstralaidd, do’n i ddim yn ffan mawr o’r hyfforddiant felly ro’n i’n hapus i wneud y penderfyniad i chwarae criced ac mae popeth wedi gweithio’n dda i fi, yn ffodus iawn.
“Bydda i bob amser yn edrych ar sgôr y gemau pêl-droed Awstralaidd a gweld sut mae’r holl dimau’n dod ymlaen. Ond criced yw’r prif ddiléit a dw i’n falch iawn ’mod i wedi dilyn y trywydd yma.”
Newid cyfeiriad
Cafodd Selman ei ddewis i gynrychioli tîm proffesiynol y Sunshine Coast Scorchers yn 18 oed, yn ogystal â thîm dan 17 talaith Queensland.
Ond ar ôl gweld ei gyfleoedd yn pylu yn ei famwlad, manteisiodd Selman ar ei basport Prydeinig wrth symud i Loegr, lle cynrychiolodd ail dîm Swydd Gaint a Swydd Gaerloyw.
Fe gafodd flas hefyd ar griced cynghrair Swydd Gaint cyn dod dros Bont Hafren i Gymru’r haf diwethaf a cheisio creu argraff yn ail dîm Morgannwg.
“Dw i ond wedi bod yn chwarae criced i ail dimau a thimau cynghrair. Dwi ddim wedi chwarae llawer o griced yn y gynghrair yma [yng Nghymru] ond mae chwarae i’r ail dîm yr un fath [â chwarae yn Lloegr].
“Mae hynny wedi fy rhoi i mewn sefyllfa gref wrth ddod yma i chwarae gyda Morgannwg. Roedd yn dda cael chwarae criced o’r safon yna a chael chwarae yn erbyn cricedwyr dosbarth cyntaf.”
Er y blynyddoedd o ansicrwydd ar ddechrau gyrfa Selman, mae uchelgais y cricedwr ifanc yn amlwg i bawb, sef sicrhau ei le yn nhîm Morgannwg yn y Bencampwriaeth.
“Fy mreuddwyd yw chwarae criced dosbarth cyntaf. Os galla i wneud hynny yn ystod y misoedd cyntaf, byddai hynny’n wych. Fe allwn i sicrhau fy lle yn uchel yn y rhestr fatio a chwarae ambell gêm undydd ac ugain pelawd nawr ac yn y man.
“Ond y prif nod yw chwarae criced dosbarth cyntaf gyda Morgannwg.”
Y dyfodol
Ond daeth Selman i Forgannwg gan wybod y gallai wynebu cryn gystadleuaeth am le ymhlith prif fatwyr Morgannwg, gyda’r capten Jacques Rudolph, Mark Wallace, Will Bragg, Colin Ingram a Chris Cooke ymhlith y batwyr mwyaf profiadol, a James Kettleborough, Jeremy Lawlor ac Aneurin Donald yn benderfynol o brofi eu gwerth hefyd.
Ond roedd Selman yntau hefyd wedi creu argraff gyda’i berfformiad yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC dros y penwythnos cyn i’r glaw roi terfyn cynnar ar ei fatiad.
“Roedd yn dda cael sgorio yn y 30au a chael dod i arfer â’r elfennau yma a’r lleiniau isel, araf ar ôl dod o ‘Oz’ lle mae’r lleiniau’n gyflym. Bydd rhaid i fi ddod i arfer â chyflymdra’r lleiniau yma ac felly roedd yn dda cael bod allan yn y canol.
“Mae’r paratoadau wedi bod yn mynd yn dda gyda’r bois wrth i fi ddod i’w nabod nhw. Mae’r cyfleusterau yn y Swalec SSE yn wych. Mae’r staff hyfforddi fel Robert Croft a bois fel’na yn dda iawn ac yn fy helpu i ddatblygu fy ngêm.
“Dw i wedi dysgu tipyn yn ystod fy mis cyntaf yma. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r tymor a sgorio llwyth o rediadau i Forgannwg.”
Boed yn batio i Gaerdydd yn Uwch Gynghrair Cymru, i ail dîm Morgannwg neu i’r tîm cyntaf, mae gan Nick Selman ddyfodol disglair yn y byd criced.
Yn groes i arfer ei gydwladwyr, un digon tawedog yw’r Awstraliad ifanc hwn. Ond disgwyliwch i’w fat siarad drosto fe am flynyddoedd i ddod.
Stori: Alun Rhys Chivers