Chris Coleman - ei lwyddiant yn denu sylw clybiau (Llun; Jamie Thomas)
Mae straeon yn parhau y byddai clybiau Abertawe ac Aston Villa yn ystyried cynnig swydd i Chris Coleman os na fydd rheolwr Cymru yn arwyddo estyniad i’w gytundeb cyn yr haf.

Fe fydd Coleman yn arwain y tîm cenedlaethol i Ewro 2016 ym mis Mehefin, ond dyw’r rheolwr 45 oed heb gytuno eto i aros gyda Chymru ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2018.

Fe ddywedodd yn ddiweddar nad oedd y trafodaethau cychwynnol ar gytundeb newydd “wedi mynd yn bell iawn”.

Ac yn ôl y Daily Mirror, mae hynny wedi tynnu sylw rhai o glybiau’r Uwch Gynghrair a allai fod yn chwilio am reolwr newydd yn yr haf, gan gynnwys Abertawe ac Aston Villa.

Opsiynau

Cafodd rheolwr Aston Villa Remi Garde ei ddiswyddo’r wythnos diwethaf gyda’r clwb bron yn sicr bellach o ddisgyn i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Mae Abertawe hefyd ymysg y clybiau sydd o bosib yn chwilio am reolwr newydd – er mai eu cyn-reolwr nhw Brendan Rodgers, yn hytrach na Coleman, yw eu dewis cynta’ ar hyn o bryd.

Ond fe allai Coleman fod yn benodiad poblogaidd yn Stadiwm Liberty, gan ei fod yn enedigol o Abertawe ac wedi chwarae dros y clwb dros 200 o weithiau yn ystod ei yrfa.

Fe ddechreuodd Coleman ei yrfa hyfforddi gyda Fulham, ac roedd hefyd wedi bod wrth y llyw yn Real Sociedad, Coventry a Larissa cyn cael ei benodi’n rheolwr ar Gymru i ddilyn Gary Speed yn 2012.

Guidolin yn gadael?

Mae disgwyl y bydd rheolwr presennol yr Elyrch, Francesco Guidolin, yn gadael ei swydd pan fydd ei gytundeb yntau’n dod i ben ddiwedd y tymor.

Dim ond ym mis Ionawr y cafodd yr Eidalwr ei benodi, ond mae’n edrych yn debygol iawn bellach ei fod wedi cyflawni’r dasg o gadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.

Yn ddiweddar fe gyfaddefodd Guidolin y byddai ganddo ddiddordeb bod yn rheolwr nesaf ar dîm cenedlaethol yr Eidal, a hynny gan fod y rheolwr presennol Antonio Conte wedi cyhoeddi y bydd yn symud i glwb Chelsea ar ôl Ewro 2016.

“Dyw fy nyfodol i yn Abertawe dal ddim wedi’i benderfynu. Byddai hynny [dod yn rheolwr ar yr Eidal] yn fraint i mi, ond hoffwn ni hefyd barhau yn fan hyn,” meddai.