Gyda dim ond 300 diwrnod tan Gemau’r Gymanwlad 2022, mae tîm Cymru yn lansio eu hymgyrch i gyfri’r dyddiau nes dechrau’r gemau.
Ac maen nhw wedi cael help gan yr actor adnabyddus Matthew Rhys i roi gwynt yn hwyliau’r ymgyrch.
Mae’r bardd Eurig Salisbury wedi ysgrifennu cerdd yn arbennig ar gyfer Tîm Cymru, ‘Codwn’, gyda’r actor Matthew Rhys yn darllen y gerdd ar ffilm.
Daw’r gerdd yn rhan o ymgyrch gan athletwyr, chwaraeon a Gemau’r Gymanwlad Cymru, sy’n ceisio rhoi hwb i daith yr athletwyr i’r Gemau ym Mirmingham a chyflawni eu hamcanion.
Dros y misoedd nesaf, bydd Gemau’r Gymanwlad Cymru’n dod â’r syniadau creadigol hyn yn fyw drwy eu hymgyrch.
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys nifer o aelodau blaenllaw Gemau’r Gymanwlad Cymru, ac yn cael ysbrydoliaeth gan dirwedd fynyddig Cymru, a hanes a threftadaeth ddiwylliannol y wlad.
Fe fydd elfennau allweddol yr ymgyrch yn canolbwyntio ar adeiladu amgylchedd cryf ac unedig ar gyfer athletwyr Tîm Cymru, gan ymdrechu i gyflawni a chyrraedd eu harwyddair – ‘Gorau nod, uchelgais’.
“Taith”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru, Chris Jenkins, bod hwn yn “gyfle gwych i ddod â Chymru i gyd ar daith”.
“Gyda Birmingham ar garreg ein drws, mae hwn yn gyfle gwych i ddod â Chymru i gyd ar daith gyda ni i’r Gemau,” meddai Chris Jenkins.
“Mae Tîm Cymru bob amser wedi cael cefnogaeth wych gartref yn ystod y Gemau, a bydd nifer yn teithio i Birmingham i wylio athletwyr o Gymru yn cystadlu ar lwyfan y byd. Mae’n gyffrous gwahodd Cymru gyfan i ymuno â’r tîm a chefnogi ein hathletwyr yr haf nesaf.
“Mae ein hymgyrch, ‘Y Ffordd i Birmingham’, yn cyfleu ymdeimlad ohonom i gyd yn dod at ein gilydd – athletwyr, staff cymorth, chi, a Chymru gyfan. Mae’r ymgyrch yn cydnabod bod gan bawb daith i gyflawni eu nodau – i gyrraedd copa eu dyheadau.”
“Cryfder a gwytnwch”
“Mae nodi 300 diwrnod i fynd yn ei gwneud ychydig yn fwy real, y bydd gennym ni dîm cryf ac ymroddedig yn barod i gystadlu yn Birmingham ymhen 10 mis,” meddai Nicola Phillips OBE, Chef de Mission y tîm.
“Mae’r siwrnai maen nhw i gyd wedi bod arni eisoes yn anghredadwy – brwydro trwy’r pandemig, hyfforddi pan fo hynny’n bosibl, cadw cymhelliant a gyrru.
“Wrth edrych ar ein hymgyrch, a pha mor bell i fyny’r mynydd maen nhw eisoes wedi cyrraedd, mae’n dangos eu cryfder a’u gwytnwch, a gobeithio erbyn mis Gorffennaf, bydd hwnnw’n gopa arall byddwn wedi’i gyrraedd.”
“Cyrraedd ein copa”
Ychwanegodd Leah Wilkinson, Capten Hoci Cymru ar Gomisiwn Athletwyr Gemau’r Gymanwlad Cymru, bod y cynllunio dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn “anhygoel ac yn gyffrous iawn”.
“Fel rhan o’r comisiwn athletwyr, rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod llais yr athletwyr yn cael ei ymgorffori yn ymgyrch y Gemau.
“Roedd ymladd i weld pobl trwy’r pandemig yn golygu dod â phawb at ei gilydd ac roedd hynny ar flaen y gad yn ein cynllunio, a sut y gallwn helpu i annog ein gilydd wrth i ni i gyd fynd ar ein taith i gyrraedd y Gemau, gobeithio.
“Ac i ni, cyrraedd y brig, ein copa, yw hwnna. Ni allaf gredu mai dim ond 300 diwrnod sydd i fynd!”
Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio heddiw (1 Hydref) ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn rhedeg nes diwedd Gemau’r Gymanwlad a fydd yn cael eu cynnal rhwng 28 Gorffennaf ac 8 Awst 2022.