Bydd Mike Flynn yn gadael ei swydd yn rheolwr Casnewydd wedi pedair blynedd, ar ôl ei gêm olaf wrth y llyw ddydd Sadwrn (2 Hydref) yn erbyn Scunthorpe.
Daw ei ymadawiad yn dilyn colled 2-1 i Barrow y penwythnos diwethaf, sydd wedi gadael y clwb yn yr 15fed safle.
Roedd Flynn wedi galw perfformiad ei dîm yn y gêm honno yn “llwfr,” ond nid yw yn glir beth yn union achosodd y gŵr 40 oed i adael y swydd.
Daeth yn rheolwr ar yr Alltudion yn 2017, gan lwyddo i gadw’r clwb rhag cwympo o’r Gynghrair Bêl-droed ar ddiwedd tymor 2016-17.
Fe arweiniodd y tîm i rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran y llynedd, ble wnaethon nhw golli 1-0 i Morecambe yn Wembley.
Craig Harrison i olynu Andy Morrison
Yn dilyn y newyddion bod Andy Morrison wedi gadael clwb Cei Conna, mae Craig Harrison wedi ei benodi yn rheolwr ar y clwb.
Roedd Harrison, sy’n gyn-reolwr Y Seintiau Newydd a Bangor, wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi’r Nomadiaid ers 2018, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y clwb wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru ddwywaith.
Yn ystod ei gyfnod yn arwain y Seintiau, daeth yn un o reolwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed domestig Cymru, gan gipio’r Uwch Gynghrair chwe gwaith ac ennill saith cystadleuaeth gwpan.
“Rwy’n gyffrous iawn i ymgymryd â’r her newydd hon ac rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn rôl wahanol yn y clwb ochr yn ochr â phobol dda iawn, ar y cae ac oddi arno,” meddai Harrison.