Cafodd dau reolwr sy’n hanu o’r cymoedd noson dda yn y Bencampwriaeth neithiwr (nos Fercher, Medi 29).

Fe wnaeth tîm Luton Nathan Jones o Flaenrhondda guro Coventry o 5-0, tra bod Notingham Forest, o dan arweiniad Steve Cooper o Bontypridd, wedi curo Barnsley o 3-1.

Ac fe gafodd y ddau eu magu dafliad carreg oddi wrth ei gilydd yng Nghwm Rhondda, er bod Cooper wedi dweud wrth golwg360 yn y gorffennol nad oedden nhw’n adnabod ei gilydd bryd hynny nac wedi cwrdd cyn iddyn nhw wynebu ei gilydd yn rheolwr proffesiynol.

Luton 5-0 Coventry

Dywedodd Nathan Jones mai’r fuddugoliaeth neithiwr oedd y “perfformiad gorau” ers iddo fe ddechrau rheoli Luton am yr ail waith fis Mai y llynedd.

Nathan Jones

Sgorion nhw bedair gôl yn yr hanner cyntaf cyn sgorio’u pumed wedi’r egwyl i gosbi tîm Coventry a allai fod wedi codi i frig y Bencampwriaeth pe baen nhw wedi ennill.

“Fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw sgorio’r gôl gyntaf, cadw llechen lân ac ennill, a byddwn i wedi derbyn unrhyw ddau o’r rheiny,” meddai Nathan Jones.

“Roedd e’n berfformiad cyflawn, fy mherfformiad gorau yn rheolwr ar Luton o dipyn, gan fy mod i’n gwybod ein bod ni wedi sgorio wyth a saith a phump oddi cartref mewn rhai llefydd, ond yn y Bencampwriaeth roedd hyn, yn erbyn tîm da iawn, tîm sy’n drydydd ac fe allen nhw fod wedi codi i’r brig heno.”

Barnsley 1-3 Nottingham Forest

Steve Cooper Abertawe
Steve Cooper

Tynnodd Steve Cooper sylw at berfformiad Nottingham Forest yn yr ail hanner, wrth iddyn nhw guro Barnsley oddi cartref o 3-1 ar ôl bod ar ei hôl hi.

Daeth cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf i Barnsley cyn i Forest danio dair gwaith, gan gynnwys gôl i’r Cymro Brennan Johnson.

“Roedd hi’n gêm o ddau hanner yn nhermau’r sgôr, ond ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cael ein hunain mewn i’r un nifer o safleoedd da yn yr hanner cyntaf – wnaethon ni jyst ddim manteisio arnyn nhw,” meddai Cooper.

“Doedden ni ddim yn haeddu bod ar ei hôl hi o 1-0, ond doedden ni ddim yn haeddu bod ar y blaen o 1-0 chwaith, ond roedden ni’n gallu gweld lle’r oedd modd ennill y gêm, y tu ôl ac i lawr ochrau llinell ôl Barnsley, ac roedden ni’n gwneud hynny.

“Unwaith rydych chi’n mynd y tu ôl iddyn nhw, rhaid i chi gwblhau’r peth a dw i’n credu mai dyna’r gwahaniaeth rhwng yr hanner cyntaf a’r ail hanner.

“Wnaethon ni barhau i fynd y tu ôl iddyn nhw, ond roedden ni’n fwy cynhyrchiol a sgorion ni dair gôl.”

Steve Cooper

Abertawe v Luton: dau reolwr a ddysgodd eu crefft yng Nghwm Rhondda

Alun Rhys Chivers

Steve Cooper yn herio Nathan Jones yn Stadiwm Liberty