Sgoriodd Aleksandar Mitrovic hatric neithiwr (nos Fercher, Medi 29) wrth i Fulham guro Abertawe o 3-1 yn y Bencampwriaeth yn Craven Cottage.

Mae’r ymosodwr o Serbia bellach wedi sgorio deg gôl mewn deg gêm gynghrair y tymor hwn, gan fynd y tu hwnt i gyfanswm o 50 o goliau i’w glwb.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 11 munud, ond roedd hi’n edrych yn debygol fod Mitrovic yn camsefyll.

Daeth yr ail gôl ar ôl 31 munud, ac fe gwblhaodd ei hatric toc cyn yr egwyl, gyda Jamie Paterson yn ymateb i’r Elyrch ar ôl 47 munud.

‘Anodd bod yn siomedig â’r perfformiad’

“Dw i’n siomedig iawn ein bod ni wedi colli ond dw i’n ei chael hi’n anodd bod yn siomedig â’r perfformiad,” meddai Russell Martin, rheolwr Abertawe.

“Dw i’n falch iawn o’r chwaraewyr.

“Aethon ni ati gam wrth gam â’r tîm gorau yn yr adran.

“Cawson ni eiliadau gwych, ac weithiau mae’n rhaid i chi dderbyn pan ydyn nhw’n chwarae â chryn safon ac roedd dwy o’u goliau nhw o safon uchel iawn.

“Ac mae’r boi wnaeth ei gorffen hi’n farwol ac yn un o’r ymosodwyr gorau yn yr adran, os nad y gorau.

“Ond mae’r gôl gynta’n un anodd i’w chymryd.

“Rydyn ni’n gweithio ar geisio cael allan o’r cwrt cosbi ac mae e’n camsefyll. Mae’n gamgymeriad.

“Ro’n i wrth fy modd gyda’n perfformiad ni yn yr ail hanner.

“Dangoson ni ddewrder gwirionedol.

“Cawson ni gyfle enfawr ond yr hyn oedd ar goll gennym oedd rhywfaint o hyder, yr hyder hwnnw oedd ganddyn nhw.

“Ond roedden ni’n edrych fel tîm da iawn am gyfnodau hir.”