Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn archwilio’r syniad o chwarae gemau yn Stadiwm y Principality unwaith eto.

Dim ond unwaith y mae Cymru wedi chwarae yn Stadiwm y Principality ers 2011 – gêm gyfeillgar yn erbyn cyn-bencampwyr Ewrop a’r Byd, Sbaen, ym mis Hydref 2018.

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn boblogaidd gyda chefnogwyr ac wedi bod yn gartref da i dîm cenedlaethol y dynion dros y degawd diwethaf, gyda’r tîm yn cael llwyddiant gan gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 2016 a 2020.

Arwyddair Cymru
Arwyddair Cymru ar wal Stadiwm Dinas Caerdydd

“Mae gennym gytundeb gyda Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae pawb yn hoff iawn o fynd yno,” meddai prif weithredwr newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y Gwyddel Noel Mooney, wrth asiantaeth newyddion PA.

“Ond fe fyddwn ni’n siarad ag Undeb Rygbi Cymru ddiwedd yr wythnos nesaf. Yn sicr, rydym mewn trafodaethau gyda nhw…

“Er mwyn sicrhau, os daw gêm nad yw Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael ar ei chyfer am ba reswm bynnag… neu os oes yna deimlad mawr iawn bod pobl eisiau mynd i Stadiwm Principality.”

Stadiwm y Mileniwm

Rhwng 2000 a 2009, Stadiwm y Mileniwm, fel y’i galwyd bryd hynny, oedd cartref pêl-droed Cymru ar gyfer bron bob gêm, yn enwedig y rhai mawr.

Roedd Cymru’n llenwi’r stadiwm yn y blynyddoedd cynnar – gan guro’r Almaen a’r Eidal. Yn wir, bryd hynny, Cymru oedd â’r torfeydd mwyaf yn Ewrop gyfan.

Ond fe wnaeth y torfeydd leihau wrth i’r tîm straffaglu ac roedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei ystyried yn fwy addas.

Ond y flwyddyn nesaf bydd Cymru’n wynebu gêm ail-gyfle bosibl yng Nghwpan y Byd ym mis Mawrth yn ogystal â gemau mawr ym mis Mehefin a mis Medi yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.

Daw’r timau allan o’r het ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd 2022-23 ym mis Rhagfyr, a gallai Cymru ddenu torfeydd mawr iawn ar gyfer y gemau hynny – gyda pencampwyr y byd, Ffrainc a  phencampwyr Ewrop, yr Eidal, yn wrthwynebwyr posibl, ynghyd â Lloegr, Portiwgal, yr Almaen a llu o wledydd mawr eraill.

Ynghylch y posibilrwydd o symud gemau Cymru i Stadiwm y Principality, ychwanegodd Mooney: “Mae’n rhywbeth y gallem ei wneud. Pam ddim?”

Mooney a Giggs

Ymunodd Mooney â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Gorffennaf ar ôl treulio 10 mlynedd yn UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewrop, yn fwyaf diweddar fel pennaeth datblygu strategol.

Dywedodd y Gwyddel hefyd ei fod wedi siarad yn “gryno” gyda rheolwr Cymru, Ryan Giggs, sydd wedi bod i ffwrdd o’i swydd ers mis Tachwedd 2020.

Mae Giggs yn wynebu cyhuddiadau o ymosod ar ddwy ddynes ac o ymddygiad o reoli drwy orfodaeth – mae disgwyl i’r achos llys gael ei gynnal ym mis Ionawr. Mae cyn-seren Manchester United a Chymru yn gwadu’r cyhuddiadau.

Dywedodd Mooney: “Siaradais â Ryan yn gryno pan ymunais. Mae e ar gontract gyda ni a chawsom alwad ffôn ddymunol.

“Rydyn ni’n aros. Mae proses ar waith. Rydyn ni’n aros i weld sut mae hynny’n dod i ben.”

Robert Page, oedd yn aelod o staff Ryan Giggs, sydd wedi bod wrth y llyw am yr 11 mis diwethaf.

Arweiniodd Page y garfan i’r 16 olaf ym Mhencampwriaeth Ewrop 2020 yn ystod haf 2021 ac fe sy’n gyfrifol am ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022 sy’n digwydd ar hyn o bryd.