Mae tîm hyfforddi Merched Rygbi Cymru yn dweud ei bod yn “hapus iawn” gyda pherfformiadau’r garfan.

Daw hyn wrth iddyn nhw baratoi i herio Siapan (dydd Sul 7 Tachwedd), De Affrica (dydd Sadwrn 13 Tachwedd) a Chanada (dydd Sul 21 Tachwedd) yng nghyfres yr Hydref.

Bydd y gemau i gyd yn cael eu cynnal ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.

Hyfforddwyr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Geraint Lewis ac Ioan Cunningham, fydd yn arwain Merched Cymru, gyda chymorth cyn-hyfforddwr ymosod y Scarlets, Richard Whiffin.

Arweiniodd y tîm hyfforddi wersyll hyfforddi dri diwrnod o hyd dros y penwythnos diwethaf gyda charfan ehangach a fydd yn cael ei leihau’n garfan derfynol yr wythnos nesaf ar gyfer y gemau sydd i ddod.

“Cyffrous”

Dywedodd Ioan Cunningham, “Rwy’n hynod gyffrous i fod yn gweithio gyda’n talentau Cymreig benywaidd.

“Roedd y penwythnos diwethaf yn ardderchog, rydym wedi rhoi rhai sylfeini ar waith ar gyfer yr hydref sydd rownd y gornel a chyda Chwe Gwlad y Merched y flwyddyn nesaf a Chwpan Rygbi’r Byd mewn golwg.

“Rydym wedi bod yn hapus iawn gyda pherfformiadau chwaraewyr Cymru yn Uwchgynghrair Cymru Allianz.

“Mae’r chwaraewyr yn herio ei gilydd wythnos ar ôl wythnos mewn gemau dwysedd uchel fel eu bod yn gallu cystadlu ar lefel uchel pan fyddant yn chwarae rygbi prawf.

“Mae cystadleuaeth yn gyrru safonau a dyna beth rydyn ni eisiau.”