Mae cynlluniau a gyhoeddwyd gan Undeb Rygbi Cymru i gryfhau cyfranogiad menywod yn y gamp, wedi cael eu croesawu gan llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AoS.

Byddan nhw’n gwneud hyn trwy gyflogi ‘Swyddog Rygbi – Gêm Menywod’ ym mhob un o’r pum rhanbarth yng Nghymru.

Fe wnaeth Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, sy’n rhan o ranbarth y Gweilch, gwrdd ag uwch swyddogion Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar i drafod cynlluniau’r undeb.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pryderon ynghylch penderfyniad Clwb Rygbi Merched Abertawe i roi’r gorau iddi yn ôl ym mis Gorffennaf, yn ogystal â deiseb a arwyddwyd gan 123 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol rygbi menywod Cymru sy’n galw ar Undeb Rygbi Cymru i wella sefyllfa rygbi menywod yng Nghymru.

“Cryfhau rygbi menywod”

“Yn anffodus, nid yw’r cyhoeddiad hwn yn gwrthdroi tranc Clwb Rygbi Abertawe, ac ni welir eto a fydd Undeb Rygbi Cymru yn cyflawni galwadau rhesymol iawn 123 o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn eu deiseb,” meddai Sioned Williams.

“Yn rhy aml rydym yn clywed am ddiffyg cydraddoldeb o ran darparu llwybrau perfformiad a chontractau proffesiynol i fenywod.

“Fodd bynnag, rwy’n obeithiol y bydd penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i gyflogi pum swyddog rygbi menywod yng Nghymru, ynghyd â’i adolygiad cyfredol ar sefyllfa rygbi menywod, yn atal clybiau eraill rhag dilyn yr un llwybr ac yn cryfhau rygbi menywod yn rhanbarth y Gweilch rwy’n ei gynrychioli ac ym mhob rhan o Gymru.

“Fel llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy’n benderfynol o sicrhau bod gan bawb fynediad llawn at chwaraeon ar bob lefel.”