Mae Clwb Pêl-droed Cei Connah wedi cadarnhau bod eu rheolwr Andy Morrison wedi ymddiswyddo.

Dywedodd y clwb eu bod nhw’n “gyndyn” o dderbyn ei ymddiswyddiad.

Cafodd ei benodi fis Tachwedd 2015 pan oedd y tîm ar waelod yr hen Uwch Gynghrair Cymru, ond fe wnaeth e eu harwain i’r chwech uchaf erbyn diwedd y tymor cyn y gêm ail gyfle Ewropeaidd yn erbyn Airbus.

Roedden nhw’n fuddugol o 1-0 yn erbyn Stabæk o Norwy dros ddau gymal yng Nghynghrair Europa wedyn – y tro cyntaf i dîm o Gymru gadw dwy lechen lân mewn dau gymal yn y gystadleuaeth Ewropeaidd.

Cyrhaeddon nhw Ewrop chwe thymor yn olynol wedyn, ac ymhlith yr uchafbwyntiau roedd buddugoliaeth o 3-2 dros ddau gymal yn erbyn Kilmarnock.

Daeth eu tlws cyntaf o dan ei arweiniad yn 2018 pan godon nhw Gwpan Cymru JD wrth guro Aberystwyth, ac fe gyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Her yr Alban y tymor canlynol cyn colli yn erbyn Ross County.

Enillodd y tîm y JD Cymru Premier ddau dymor yn olynol yn 2020 a 2021, wrth i Morrison gael ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn y ddau dro.

Ar sail pwyntiau bob gêm enillon nhw’r gynghrair yn 2020, a hynny wrth i’r tymor ddirwyn i ben yn gynnar o ganlyniad i Covid-19. Enillon nhw Gwpan Nathaniel MG yn gynharach yn y tymor hefyd.

Enillon nhw’r gynghrair ar ddiwrnod ola’r tymor diwethaf gyda buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn erbyn Penybont.

Mae’r clwb wedi diolch i Andy Morrison am “rai o’r eiliadau gorau yn hanes y clwb”, ac maen nhw’n dweud y bydd cyhoeddiad ynghylch ei olynydd maes o law.