Bydd Caerdydd gartref yn erbyn Reading yn y Bencampwriaeth yfory, gan obeithio am ganlyniad gwell y penwythnos hwn.

Colli o 5-1 i Blackburn oedd hanes yr Adar Gleision ddydd Sadwrn diwethaf (25 Hydref), ar ôl i’r amddiffynwyr fethu delio â bygythiad ymosodol y gwrthwynebwyr.

Yng nghanol yr wythnos, wedyn, fe gawson nhw eu maeddu unwaith eto o 4-0 gartref yn erbyn West Bromwich Albion, sydd ar frig y Bencampwriaeth.

Mae eu gwrthwynebwyr yfory, Reading, wedi cael dechreuad gweddol i’r tymor, ac yn eistedd yn yr 11eg safle ar hyn o bryd. Ond er gwaetha hynny, fe gawson nhw golled siomedig y penwythnos diwethaf i Derby, sydd yn cael trafferthion gweinyddol oddi ar y cae.

Bydd cic gyntaf y gêm brynhawn dydd Sadwrn, 2 Hydref, am dri, a bydd sylwebaeth fyw ohoni ar BBC Radio Cymru.

Gair gan y rheolwr

Mae rheolwr Caerdydd Mick McCarthy yn gobeithio cael ymateb cadarnhaol gan ei chwaraewyr brynhawn Sadwrn.

“Mae angen perfformiad y gallwn ni fod yn falch ohono ac un gall y cefnogwyr fod yn falch ohono,” meddai.

“Bydd hynny’n helpu i ddechrau troi pethau o gwmpas.

Mick McCarthy. Llun o wefan clwb pêl-droed Dinas Caerdydd.

“Mae’n rhaid i ni gynnal y pethau cadarnhaol rydyn ni wedi’u gwneud dros y chwech neu saith mis diwethaf, a newid y pethau sydd ddim yn gweithio a rhoi cynnig ar rywbeth arall. Ond dw i’n dal i gredu yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Yn gyntaf oll, mae’n rhaid i ni gael perfformiad a chanlyniad. Rydyn ni’n anelu at hynny, ac yn eiddgar i ennill y gêm, wrth gwrs!”

Newyddion am y tîm

Bydd Joe Ralls, sy’n dathlu deng mlwyddiant gyda Chaerdydd, yn gobeithio dychwelyd i’r tîm ar ôl methu’r gemau diwethaf gydag anaf.

Mae’r tri yn y cefn, Curtis Nelson, Sean Morrison ac Aden Flint – prif sgoriwr Caerdydd hyd yn hyn – yn debygol o ddechrau’r gêm, er iddyn nhw ildio naw gôl mewn dwy gêm.

Er ei fod heb gael gôl i Gaerdydd ers canol mis Awst, bydd Kieffer Moore hefyd yn cadw ei le fel ymosodwr unigol mwy na thebyg.

Mae’r Cymry, Will Vaulks a Rubin Colwill, hefyd yn ffit i ddechrau’r gêm yng nghanol y cae.

Y gwrthwynebwyr

Mae tri o ymosodwyr gorau Reading – Lucas Joao, Femi Azeez a Yakou Meite – i gyd yn methu’r gêm ddydd Sadwrn, sy’n golygu mai George Puscas fydd yn debygol o ddechrau yn y blaen.

Mae Ovie Ejaria a John Swift wedi camu i’r adwy yn eu habsenoldebau, gyda’r ddau’n cyfrannu nifer o goliau Reading y tymor hwn, tra bod cyn-chwaraewr Barcelona a Milan, Alen Halilovic, a chyn-ganolwr Chelsea, Danny Drinkwater, ar gael i’r Royals.

Bydd cyn-asgellwr Caerdydd, Junior Hoilett, hefyd ar gael i’r gwrthwynebwyr.

  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf