Fe wnaeth Nick Selman, batiwr Morgannwg sy’n enedigol o Awstralia, daro 140 – ei sgôr gorau erioed mewn gêm undydd Rhestr A – wrth i Forgannwg sgorio 277 am wyth yn erbyn Swydd Gaerlŷr cyn i’r glaw ddod â’r gêm yng Nghwpan Royal London i ben heb ganlyniad yn Grace Road.
Daeth ei gyfanswm oddi ar 144 o belenni wrth iddo fe daro wyth pedwar ac un chwech, a bu bron iddo fe bara’r batiad cyfan cyn cael ei redeg allan oddi ar belen gynta’r belawd olaf.
Sgoriodd Billy Root 67, gan gynnwys pedwar pedwar ac un chwech, wrth adeiladu partneriaeth bedwaredd wiced o 123 gyda Selman ar ôl i Hamish Rutherford, y batiwr o Seland Newydd, fynd allan am un.
Yn ddiweddarach, adeiladodd Selman a Steven Reingold bartneriaeth o 92 cyn i George Rhodes daro’i goes o flaen y wiced.
Cipiodd y troellwr George Rhodes dair wiced am 44 – ei ffigurau gorau erioed – i’r Saeson ac fe gafodd ei dri daliad ar ôl i’w dîm alw’n gywir a dewis bowlio.
Dim ond pelawd o fatiad y tîm cartref oedd yn bosib cyn i’r glaw ddod ac er iddyn nhw ailddechrau gyda nod wedi’i addasu o 257 oddi ar 43 o belawdau, daeth rhagor o law â’r gêm i ben unwaith ac am byth.