Mae Ken Owens yn dweud bod gan dîm rygbi’r Llewod “lasbrint” er mwyn curo De Affrica yn y prawf tyngedfennol yn Cape Town ddydd Sadwrn (Awst 7), ond yn cyfaddef mai’r gwrthwynebwyr yw’r ffefrynnau.

Collodd y Llewod yr ail brawf o 27-9 ar ôl ennill y prawf cyntaf.

Mae’r prif hyfforddwr Warren Gatland wedi cyhoeddi chwe newid i’r tîm, gan gynnwys bachwr y Scarlets sy’n dechrau prawf dros y Llewod am y tro cyntaf.

“Gallech chi ddweud, gyda’r ffordd wnaeth De Affrica orffen y gêm, fod y momentwm gyda nhw ond allwn ni ddim edrych ’nôl ar yr hyn ddigwyddodd wythnos ddiwethaf,” meddai.

“Mae’r hyder yn dal yno, rydyn ni’n gwybod ac yn ymddiried yn ein prosesau a’r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni, ac rydyn ni yma ar gyfer trydydd prawf tyngedfennol enfawr.

“Rydyn ni mewn lle da iawn, rydyn ni’n gwybod yr her sy’n mynd i ddod gan Dde Affrica, felly mae’n argoeli’n dda ar gyfer diweddglo gwych.

“Mae gyda ni’r glasbrint ar gyfer y fuddugoliaeth.”