Mae Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd 2021 yn Lloegr wedi’i ohirio tan y flwyddyn nesaf.

Roedd y newyddion wedi’i ragweld ers i Awstralia a Seland Newydd dynnu allan o’r twrnament bythefnos yn ôl oherwydd ofnau diogelwch yn sgil pandemig y coronafeirws.

Roedd y twrnament i fod i ddechrau yn Newcastle ar Hydref 23.

Ar y cychwyn, roedd y trefnwyr am fwrw ymlaen â’r twrnament yn yr hydref heb ddau o’r tri mawr ond cawson nhw eu gorfodi i ohirio wrth i bob un o 16 o glybiau cynghrair yr NRL gefnogi’r boicot.

“Cafodd y penderfyniad eithriadol o anodd ei wneud gan Fwrdd Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair, sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol,” meddai datganiad.

“Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad helaeth a brys a gynhaliwyd gan Brif Swyddog Gweithredol Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair Jon Dutton a’i dîm, a ymgysylltodd â chwaraewyr, gwledydd sy’n cystadlu, Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi’r Gynghrair (Awstralia), Llywodraeth y Deyrnas Unedig, partneriaid masnachol a darlledu.”

“Yn y pen draw, mae blaenoriaethau amser a cystadleuol gan eraill wedi ein gorfodi i wneud y penderfyniad anoddaf yn ein hanes chwe blynedd,” meddai Jon Dutton, prif weithredwr y twrnament.

“Fodd bynnag, rydym ni a champ rygbi’r gynghrair yn wydn, a’r flwyddyn nesaf byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth o’r Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd mwyaf a gorau erioed.”

‘Siomedig’

“Rwy’n siomedig bod angen i ni wneud y penderfyniad i ohirio Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair,” meddai Nigel Huddleston, Gweinidog Chwaraeon San Steffan.

“Er gwaethaf gweithio’n ddiflino i ffeindio atebion a fyddai’n ein galluogi i fynd yn ein blaenau, mae amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth wedi golygu mai gohirio Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd tan y flwyddyn nesaf yw’r opsiwn cryfaf ar gyfer cynnal twrnament llwyddiannus.

“Er lles gorau’r gamp a’i miliynau o gefnogwyr ledled y byd, edrychaf ymlaen at weld awdurdodau Rygbi’r Gynghrair ym mhob gwlad sy’n cystadlu yn mynychu twrnament sydd wedi’i aildrefnu yn 2022, fel y gallwn gynnal y digwyddiad y mae’r cefnogwyr yn ei haeddu.”