Does dim amheuaeth fod y Maindy Flyers wedi chwarae rhan enfawr yn hanes diweddar seiclo yng Nghymru. Mae Geraint Thomas, Luke Rowe, Owain Doull ac Elinor Barker ymhlith y rhai ddatblygodd eu crefft gyda’r clwb yn y brifddinas.