Mae Russell Martin, rheolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol seiliau cadarn y clwb, gan ddweud ei fod yn awyddus i adeiladu arnyn nhw y tymor hwn.

Cafodd yr Albanwr 35 oed ei benodi lai nag wythnos cyn gêm gynta’r tymor oddi cartref yn Blackburn ddydd Sadwrn (Awst 7), yn dilyn ymadawiad Steve Cooper.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd ar ôl gadael MK Dons.

Er i’r Elyrch golli chwaraewyr allweddol fel y golwr Freddie Woodman, yr amddiffynnwr canol Marc Guehi a’r ymosodwr Andre Ayew ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, mae rhan fwya’r garfan yn dal yn Stadiwm Liberty.

Bydd hynny, meddai Russell Martin, yn cynnig seiliau cadarn i adeiladu arnyn nhw wrth ychwanegu at y garfan bresennol.

“Mae’r clwb wedi bod mewn sefyllfa wych,” meddai.

“Dw i’n dod i’r fath le cryf.

“Mae hynny’n apelio hefyd, nad ydw i’n dod i glwb sydd ar ei liniau ac yn cael bywyd yn anodd iawn.

“Mae diwylliant cryf yma ac mae’r ffordd mae pobol yn y clwb eisiau eich helpu chi’n rhagorol ac fe allwch chi synhwyro bod pawb sy’n gweithio i’r clwb yn awyddus iawn iddo lwyddo.

“I fi, roedd y penderfyniad yn fater o gael y cyfle i weithio ar rywbeth mor fawr â hyn.

“Mae llawer o waith i’w wneud, nid yn unig yn y farchnad drosglwyddiadau ond ar y cae ymarfer hefyd.

“Ar ôl siarad â Julian [Winter, y prif weithredwr] a’r bois, dw i wedi cael sicrwydd ynghylch llawer o bethau a gobeithio y bydd hynny’n dangos yn gyflym.

“Ond mae hi ychydig yn denau arnon ni ar hyn o bryd.

“Wrth gwrs fod y clwb wedi colli rhai chwaraewyr allweddol, ond y cyfan alla i ganolbwyntio arno yw’r hyn wnawn ni wrth symud ymlaen, ac rydyn ni’n gweithio’n galed iawn ar hynny nawr.

“Byddwn ni’n ymroi’n llwyr gyda’r hyn sydd gyda ni.

“Mae arnon ni hynny i’r cefnogwyr a’r bobol sy’n gweithio yn y clwb.”