Fe rwydodd Dave Edwards yn ail funud amser ychwanegol wrth i’r Bala guro’r Fflint o 2-1 a symud i’r ail safle yn Uwch Gynghrair JD Cymru.

Fflint sgoriodd gyntaf gyda gôl gan Michael Wilde.

Wedyn croesodd Edwards – cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru – at y postyn pellaf i alluogi Chris Venables ddod a’r sgôr yn gyfartall cyn iddo sgorio ei hun a sicrhau’r triphwynt i’r Bala.

Di-guro

Mae arweinwyr y gynghrair Y Seintiau Newydd yn parhau’n ddiguro yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 dros Aberystwyth.

Fe rwydodd Declan McManus ddwy gôl yn yr hanner cyntaf cyn i Ryan Astles ychwanegu’r trydydd wedi’r egwyl.

Aeth Llansawel i frig De JD Cymru ar ôl curo Rhisga 3-1 gyda Tyler Brock, Joe Hunt a Mark Jones i gyd yn rhwydo i dîm Andy Hill.

Fe wnaeth Sean Cronin achub pwynt i’r Goytre mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Caerfyrddin a’u symudodd i’r ail safle yn nhabl De Cymru.

Er i Ioan Evans gael ei anfon oddiar y cae, daeth Afan Lido i’r amlwg 1-2 gan guro i ffwrdd o gartref yn Rhydaman diolch i goliau gan Jordan Edwards a Josh Webber.

Yng nghynghrarir Gogledd JD Cymru, gêm gyfartal ddi-sgôr oedd y canlyniad rhwng y Gresffordd a Threffynnon ar gae Y Graig, gyda Alex Buxton yn cael ei anfon o’r cae i’r tîm cartref yn yr ail hanner.