Fyddai datganoli Ystâd y Goron, sy’n werth £500m, ddim yn dod â budd i Gymru, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywed Simon Hart, wrth ateb cwestiynau gan Aelodau Seneddol ddoe (dydd Mercher, Ionawr 5), nad oes “budd nac awydd gan y cyhoedd” i drosglwyddo rheolaeth yr ystâd i Lywodraeth Bae Caerdydd.

Roedd yn ymateb i gwestiwn Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a ddywedodd fod mwyafrif clir yn y Senedd i gefnogi’r egwyddor fod gan Gymru’r un pwerau â’r Alban dros Ystâd y Goron.

Ond ymatebodd Simon Hart gan ddweud ‘”a dweud y gwir, yn yr achos yma, os nad yw wedi’i dorri, peidiwch â’i drwsio”.

“Mae’r berthynas y mae Ystâd y Goron yn ei mwynhau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn gweithio’n dda iawn,” meddai wedyn.

“Dydw i ddim yn credu bod unrhyw fudd neu awydd gan y cyhoedd i newid telerau’r trefniant hwnnw.”

Dan reolaeth San Steffan

Mae gan Ystâd y Goron filltiroedd o wely’r môr o amgylch Ynysoedd Prydain a chasgliad o diroedd sy’n eiddo’r Frenhines.

Fodd bynnag, mae’r pwerau dros reoli Ystâd y Goron yng Nghymru yn dal yn nwylo San Steffan, ac mae’r refeniw’n mynd yn uniongyrchol i Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Tyfodd gwerth asedau adnewyddadwy Ystâd y Goron yng Nghymru o £49.2m yn 2020 i £549.1m yn 2021.

Fis Hydref, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford y gallai datganoli Ystâd y Goron roi’r hwb i Gymru i fod yn arweinydd byd-eang ym maes egni adnewyddadwy, trwy harneisio ynni gwynt a llanw.

“Mae’n bendant yn syniad y dylem ei gymryd o ddifrif. Mae Ystâd y Goron eisoes wedi’i datganoli yn yr Alban,” meddai.

“Mae gan Lywodraeth yr Alban ysgogiadau y gallan nhw eu defnyddio nad ydyn nhw ar gael yn uniongyrchol i ni, ac mae’n arf uniongyrchol y gall y llywodraeth ei ddefnyddio.”

Dywed fod y ddegawd nesaf yn “gwbl hanfodol ar y daith i sero net erbyn 2050”.

“O ystyried bod mwyafrif clir yn y Senedd erbyn hyn i gefnogi’r egwyddor bod gan Gymru’r un pwerau, cofiwch, fel sydd gan Ystâd y Goron yn yr Alban, a wnaiff y Gweinidog hefyd gefnogi fy Mil i sicrhau bod elw gwynt ar y môr yn mynd at bobl Cymru?” meddai Liz Saville Roberts ar lawr San Steffan.

Tipyn o Ystâd – dadlau dros diroedd Ei Mawrhydi

Jacob Morris

“Mae yna bryder enbyd na fydd Cymru yn cael y cyfle i gael rheolaeth ar y budd mwyaf o’n hasedau ni ein hunain”

Galw am ddatganoli Ystâd y Goron i ddod â £500 miliwn i Gymru

Jacob Morris

Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts wedi cyflwyno mesur gerbron Senedd San Steffan yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru