Dylai’r Prif Weinidog ‘lefelu i fyny’ yng Nghymru drwy ddatganoli Ystâd y Goron sydd werth £500 miliwn.

Dyna ddywedodd Liz Saville Roberts wrth iddi gyflwyno mesur gerbron Senedd San Steffan yn galw am ddatganoli grymoedd Ystâd y Goron er mwyn “dod â gwerth hanner biliwn o bunnoedd o botensial ynni gwynt a ffrwd llanw ar y môr o dan reolaeth Cymru”.

Fe ychwanegodd “Pe bai e [Boris Johnson] wir yn credu mewn ail-gydbwyso’r economi, byddai’n rhoi modd i bobl Cymru reoli ein hadnoddau gwynt a llanw ar y môr er budd pawb.”

Mae “lefelu i fyny” yn cyfeirio at bolisi Llywodraeth y DU o geisio sicrhau cyfleodd teg i bawb o bob cefndir ledled y DU.

Ar drothwy’r Uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd y dylai’r Prif Weinidog roi ei rethreg ‘lefelu i fyny’ ar waith drwy “ymddiried ym mhobl Cymru i reoli ein hadnoddau gwynt a llanw ar y môr er budd pawb”.

Fe Ychwanegodd Liz Saville Roberts: “Os yw COP26 i fod yn llwyddiannus, rhaid i bobl fod wrth wraidd ein dyhead am genedl sero net [Carbon]. Ers rhy hir, mae economi’r DU wedi gadael gormod o bobl ar eu hôl hi tra bod cyfoeth a buddsoddiad yn codi yn ne-ddwyrain Lloegr.

Brenhines

Mae Ystâd y Goron yn gasgliad o diroedd ledled y Deyrnas Unedig sy’n eiddo i’r Frenhines.

Yng Nghymru, mae’n nhw’n cynnwys cannoedd o filltiroedd o’n glannau a’n arfordir.

Mae’r pwerau dros y tiroedd hyn eisoes wedi eu datganoli i’r Alban, ond mae tiroedd Cymru yn parhau dan reolaeth Llywodraeth San Steffan.

Mae’r refeniw sy’n cael ei gynhyrchu gan yr ystâd yn mynd yn syth i Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Tyfodd gwerth asedau adnewyddadwy Ystâd y Goron Cymru o £49.2m yn 2020 i £549.1m yn 2021, ond cafodd y cyfoeth hwnnw ei godi yn ne-ddwyrain Lloegr, meddai Liz Saville Roberts.

Fe ddywedodd Plaid Cymru ar eu cyfrif twitter: “Os yw COP26 am lwyddo, rhaid i bobl fod wrth wraidd ein hymateb.”

“Byddai Mesur Datganoli Ystâd y Goron @LSRPlaid yn dod â gwerth hanner biliwn o bunnoedd o botensial gwynt a llanw dan reolaeth Cymru.”

Gwrthod

Gwrthod gwnaeth Boris Johnson i gefnogi ei mesur gan fynnu na fyddai Ystâd y Goron yn cael ei ddatganoli.

“Mae’n ddrwg gennyf orfod dweud wrthi ond yn fy marn i yw y byddai datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru yn niweidio’r farchnad, yn cymhlethu’r prosesau presennol ac yn ei gwneud yn anos i Gymru, yn ogystal â’r DU cyfan, symud ymlaen [i fod yn genedl] sero net [Carbon],” meddai.

Yn siarad ar ôl y sesiwn, dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae Boris Johnson yn siarad am ‘lefelu i fyny’, ond nid yw hyn yn llawer mwy na slogan etholiadol.”