Mae Aelod o’r Senedd wedi lambastio penderfyniad “annemocrataidd” Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd.
Mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi mynegi “pryderon difrifol” ynghylch y ffordd gafodd y penderfyniad ei wneud, a’i effeithiau negyddol posib ar y gymuned a’r Gymraeg.
Er gwaethaf “gwrthwynebiad llethol yn lleol”, fe wnaeth cabinet y cyngor bleidleisio i gau ysgolion cynradd Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg heddiw (20 Hydref).
Bydd ysgol “super” cyfrwng Saesneg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed yn cael ei sefydlu yn lle’r tair ysgol.
Allan o’r 234 o ymatebion a gafodd y Cabinet drwy ymgynghoriad, dim ond 21 ohonyn nhw oedd o blaid y cynlluniau.
Ar ben hynny, roedd 413 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau’r tair ysgol, ac adeiladu un fawr.
“Neges yn glir”
“Rwy’n hynod siomedig gyda phenderfyniad Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot i danseilio addysg leol yng Nghwm Tawe,” meddai Sioned Williams AoS.
“Mae mwyafrif llethol y rhieni a’r preswylwyr sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â’r cynigion yn credu mai’r ffordd orau o gefnogi addysg eu plant fyddai drwy gynnal y cysylltiad rhwng yr ysgolion a’u cymunedau yn hytrach na datblygu ysgol gynradd mor enfawr ar safle canolog.
“Roedd y rhieni a’r preswylwyr hefyd yn pryderu ynghylch golli caeau chwarae, yr effaith negyddol ar deithio egnïol, tagfeydd traffig ac ansawdd aer.
“Mae ymgynghori yn gwbl wreiddiol i’r broses ddemocrataidd. Mae’r neges gan drigolion Cwm Tawe yn glir: nid ydym yn cymeradwyo’r cynlluniau hyn.
“Ni ddylai Cyngor Castell-nedd Port Talbot Llafur orfodi’r cynllun hwn o’r top – cynllun na chafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth na gyda chefnogaeth y gymuned.”
Effaith ar y Gymraeg
Mae Sioned Williams yn dweud bod pryderon nad yw’r Cyngor ystyried yr effaith ar y Gymraeg yn ddigonol wedi arwain at Lywodraeth Cymru’n comisiynu adroddiad, ac oedi’r broses.
Dydi’r adroddiad hwnnw heb ei gyhoeddi’n gwbl gyhoeddus eto.
“Mae’r adroddiad yn nodi’r effeithiau niweidiol sylweddol y byddai’r cynllun hwn yn ei gael ar y Gymraeg,” meddai Sioned Williams.
“Nid yw’r adroddiad wedi’i gyhoeddi’n gwbl gyhoeddus eto, a chredaf ei bod yn gynamserol i’r awdurdod lleol ddod i benderfyniad cyn i ddogfen mor hanfodol gael ei gwneud yn gwbl hygyrch i gynrychiolwyr etholedig lleol a thrigolion.
“Nid yn unig hyn, nid oes tystiolaeth yn yr adroddiad o unrhyw ymgais i gytuno ar achos busnes gyda Llywodraeth Cymru i wella’r ysgolion presennol, neu adeiladu ysgol newydd ym mhentref pellaf Godre’r Graig pe bai angen – rhywbeth a fyddai yn bosibl o dan gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif.
“Mae’r penderfyniad hwn heddiw yn newyddion drwg i ddisgyblion, i rieni, i addysg leol, i’r gymuned leol ac i’r Gymraeg.”
Mae Sioned Williams wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Andrew Thomas, yn mynegi pryderon ynghylch y cynigion, ac mae golwg360 wedi gofyn i’r Cyngor am ymateb.