“Mae angen chwyldro yn y byd addysg neu bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr yn methu.”
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts, does yna ddim digon o athrawon ac mae angen cynyddu’r ymdrechion i ddenu siaradwyr Cymraeg i’r proffesiwn.
Cafodd y sylwadau eu gwneud wrth i adroddiad newydd ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru gael ei gyhoeddi heddiw (21 Hydref).
Bwriad yr adroddiad yw cyflwyno darlun o sefyllfa’r iaith a phrofiadau siaradwyr Cymraeg, ac amlinellu datblygiadau arwyddocaol y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at argraffiadau cynnar y Comisiynydd am effeithiau Brexit a Covid-19 ar y Gymraeg.
Nid yw’r iaith wedi bod yn ystyriaeth ganolog yn y cynlluniau adfer, ac mae’r Comisiynydd yn rhybuddio y gallai hynny gael effaith andwyol hirdymor ar ddyfodol yr iaith, meddai.
“Chwyldro”
Mae’r adroddiad yn nodi bod cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn dibynnu ar allu’r gyfundrefn addysg i greu siaradwyr newydd.
Ar hyn o bryd, 22% o blant oed cynradd sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw cynyddu’r ganran hon i 40% erbyn 2050.
Mae targed hefyd i sicrhau bod 50% o’r disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn dod yn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae angen chwyldro yn y byd addysg neu bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr yn methu,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.
“Ar hyn o bryd does dim digon o athrawon. Mae angen gwneud llawer mwy i ddenu siaradwyr Cymraeg i’r proffesiwn, a datblygu sgiliau iaith Gymraeg yr athrawon hynny sy’n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.”
“Rhagor o gyfleoedd”
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod ymdrechion mudiadau a sefydliadau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad ac o fewn gweithleoedd.
Er bod hyn yn sail i fod yn obeithiol am ddyfodol y Gymraeg mewn rhai amgylchiadau, mae’n tynnu sylw at wendidau a’r angen i ddatblygu a gwella hefyd.
Ers cyflwyno hawliau cyfreithiol newydd i ddefnyddio’r Gymraeg, mae 123 o sefydliadau yn gweithredu’r safonau.
Yn ôl tystiolaeth yr adroddiad, mae “rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ers cyflwyno’r safonau”.
“Rydw i eisiau gweld ehangu’r safonau ar draws y sector cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt,” meddai Aled Roberts.
Rhagor o Safonau
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod yr adroddiad yn ategu galwadau’r mudiad am osod rhagor o Safonau cyn gynted â phosibl.
Yn yr adroddiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi’n “hanfodol fod y Llywodraeth newydd yn ailafael ar fyrder yn y broses o osod safonau gan ddod â sefydliadau a sectorau newydd o dan y gyfundrefn honno”.
Dywedodd Bethan Williams, ar ran Cymdeithas yr Iaith, nad yw Llywodraeth Cymru “yn gwneud y mwyaf o Fesur y Gymraeg” ar hyn o bryd.
Dywedodd Bethan Williams y “gallen nhw osod Safonau ar gwmnïau mae pobl yn eu defnyddio bob dydd, cwmnïau trydan a nwy, cwmnïau bws a thrên”.
Gorfodi
“Byddai gosod Safonau ar y sectorau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i alluogi pobl i fyw a gweithio yn Gymraeg yn eu bywydau bob dydd,” meddai.
“Mae adroddiad y Comisiynydd yn awgrymu bod cyflwyno’r Safonau wedi cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau fel cynghorau sir – os ydyn ni eisiau cynyddu a hybu defnydd y Gymraeg ar draws y wlad, dyma’r ffordd i wneud hynny.”
Yn ôl Bethan Williams, mae angen gorfodi Safonau’r Gymraeg ar gyrff y Goron hefyd.
“Ar ddechrau’r pandemig, doedd y gwasanaeth profi ac olrhain ddim yn cael yn cael ei gynnig yn Gymraeg, ac eto, dydy’r pasbort Covid digidol ddim ar gael ar yn Gymraeg. Oes angen prawf pellach na fydd dim yn newid heblaw bod gorfodaeth arnyn nhw?
Mae gwasanaeth iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn faes pwysig sydd wedi cael sylw yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y gallai’r Llywodraeth weithredu yn syth i wella pethau yn y maes.