Mae £1.3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed wedi mynd i ymgeiswyr y tu allan i Gymru.

Mae Plaid Cymru yn honni iddynt weld tystiolaeth fod y llywodraeth wedi cytuno ar naw cytundeb gwerth £1,306,561 i ymgeiswyr sydd â chyfeiriadau y tu allan i Gymru.

Mae Llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion Gwledig, Cefin Campbell wedi cyhuddo’r llywodraeth o ganiatáu cwmnïau io “gipio tir”.

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ein hofnau bod arian cyhoeddus, drwy gynllun Creu Coetir Glastir, yn arllwys dros y ffin o Gymru i bocedi cwmnïau y tu allan i Gymru,” meddai’r AoS Canol a Gorllewin Cymru

Mae ‘Creu Coetir Glastir’ yn gynllun rheoli tir cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cefnogaeth ariannol i ffermwyr a rheolwyr tir.

Buddsoddiad

Mae’r cynllun wedi bodoli ers 2015 ac yn cynnig ‘ffenestri’ i ymgeiswyr wneud ceisiadau i ennill buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i blannu coed.

Yn ystod y naw ffenestr gyntaf mae’r 1.3 miliwn gyfwerth â 14% o holl gronfeydd Llywodraeth Cymru ers dechrau’r cynllun chwe blynedd yn ôl.

Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod ar yr 11 ffenestr ond nid yw’r data ar gyfer y ddwy ffenestr ddiwethaf wedi’i gyhoeddi eto.

Mae cwmnïau buddsoddi ar raddfa fawr wedi bod yn prynu ffermydd ledled y wlad ar gyfer coedwigo drwy blannu coed i wrthbwyso eu hallyriadau carbon.

Daeth i’r amlwg yn ystod misoedd yr haf bod cwmni sydd wedi ei leoli yn adeilad y Shard yn Llundain wedi prynu pedair fferm yn ardal Dyffryn Cothi, Sir Gâr.

Yn ôl arbenigwyr amaethyddol mae tua 12 o ffermydd wedi cael eu gwerthu yn ddiweddar yn y canolbarth gan gwmnïau y tu allan i’r wlad.

Yn sgil hyn mae yna bryderon bod pryniant ffermydd yn niweidiol i ddiwylliant, iaith a threftadaeth leol.

Plannu coed

Fe ychwanegodd Cefin Campbell bod y cwmnïau hyn o “leddfu eu cydwybod eu hunain” drwy blannu coed ar draul cymunedau cefn gwlad Cymru.

“Mae coed yn cymryd lle ein pobl, a beth sy’n fwy – mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu!”

“Mae’n ddigon posibl bod y cwmni lleddfu cydwybod o’u hoblygiadau hinsawdd, ond mae’r math hwn o economi yn niweidiol i Gymru – rydym yn colli ffermydd teuluol, y cymunedau o’u cwmpas, a’r dull o gynhyrchu bwyd.”

Gydag ymhell dros £1 filiwn o bunnoedd o arian cyhoeddus wedi gadael pwrs Cymru ers 2015 i gefnogi’r landlordiaid absennol hyn mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys i amddiffyn cymunedau Cymru rhag y tuedd gynyddol bryderus hon.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.