Mae cynghrair o elusennau yn rhybuddio y bydd hi’n anodd i Lywodraeth Cymru gwrdd â chyfyngiadau newydd ar lygredd aer heb weithredu radical.
Yng Nghymru, mae rhwng 1,400 a 2,000 o bobol yn marw’n gynnar bob blwyddyn yn sgil llygredd aer, meddai cynghrair Awyr Iach Cymru.
Mae llygredd aer wedi cael ei gysylltu â phlant yn datblygu asthma, gwaethygu asthma a chyflwr anadlu COPD, canser yr ysgyfaint, afiechyd cardiofasgiwlar, iechyd meddwl, a chlefyd siwgr.
Daw galwadau Awyr Iach Cymru wrth i astudiaethau ddangos bod llygredd aer mewn ardaloedd trefol wedi cyfrannu tuag at 1.8m o farwolaethau ychwanegol dros y byd yn 2019.
Mae’r ddwy astudiaeth o’r Unol Daleithiau yn edrych ar effeithiau nitrogen deuocsid a llygredd gronynnau mân, ac mae’r modelu’n awgrymu bod yn 2.5bn o bobol yn byw mewn ardaloedd lle mae lefelau afiach o ronynnau mân llygredig yn yr aer.
Cafodd cyfyngiadau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer eu haneru llynedd, ac mae Awyr Iach Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd gyda’r Ddeddf Aer Glân ar unwaith.
‘Pryderon difrifol’
Mae data newydd gan Awyr Iach Cymru yn dangos bod lefelau llygredd aer ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru’n beryglus erbyn hyn.
Gan edrych ar lygredd aer o amgylch cartrefi gofal, ysgolion, meddygfeydd, ac ysbytai, mae’r gynghrair o elusennau wedi edrych ar faint o ardaloedd fyddai gan lefelau anghyfreithlon o lygredd yn yr aer pe bai Cymru’n dilyn targedau newydd Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae’r data’n dangos “pryderon difrifol” am y lefelau, meddai’r gynghrair, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu eu cynllunio i gyflwyno Deddf Aer Glân a gweithredu Cynllun Aer Glân.
Mae’r ystadegau’n dangos mai Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro sydd â’r lefelau gwaethaf o lygredd aer, yna ardal Aneurin Bevan, ac wedyn Abertawe a Bro Morgannwg.
Yn ôl y Ganolfan Ddinasoedd, mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â llygredd aer 21 gwaith yn fwy cyffredin na marwolaethau o ganlyniad i ddamweiniau ffordd, a llygredd aer yw’r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd, meddai Sefydliad Iechyd y Byd.
Bygythiad amgylcheddol
Dywed Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma UK a British Lung Foundation Cymru, ei bod hi’n “hanfodol” fod Llywodraeth Cymru’n symud yn sydyn.
“Mae hi’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n symud yn sydyn i gyflwyno’r Ddeddf Aer Glân sydd wedi cael ei haddo, a chynnwys cyfyngiadau newydd Sefydliad Iechyd y Byd mewn cyfraith a rhoi’r hawl i ni gyd anadlu’n well,” meddai.
“Gellir priodoli llygredd aer fel achos 1,400 i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, gyda phobol o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cael eu heffeithio waethaf.
“Mae angen i ni fynd i’r afael ag un o’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf i iechyd pobol ar unwaith.”
‘Gwneud ein rhan’
“Rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau amlwg i leihau newid hinsawdd a mynd i’r afael â llygredd aer. Mae’r ddau’n mynd law yn llaw,” meddai Haf Elgar, is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.
“Ni fydd hi’n hawdd, ond drwy fuddsoddi mewn technoleg garbon isel, trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio actif, gallwn fynd i’r afael â llygredd aer.
“Rhaid i ni gyd wneud ein rhan.”
“Rhaid caniatáu digon o amser”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein Cynllun Aer Glân ar gyfer Cymru yn datgan sut rydym yn gweithio ar y cyd ar draws sectorau a gyda’r cyhoedd, i roi polisi, deddfwriaeth, rheoliadau a buddsoddiad newydd ar waith i leihau llygredd aer yn unol â’r safonau ansawdd aer rhyngwladol uchaf.
“Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, ochr yn ochr ag ategu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae llawer o gamau gweithredu yn y cynllun yn cefnogi creu llefydd cynaliadwy drwy well cynllunio, seilwaith a thrafnidiaeth.
“Dim ond un rhan o’r Cynllun yw’r Ddeddf Aer Glân ar gyfer Cymru ac, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Aer Glân ar gyfer Cymru, sy’n ystyried Canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.
“Rhaid i ni ganiatáu digon o amser i weithio gyda’r holl randdeiliaid yn ysbryd partneriaeth a chydweithredu cymdeithasol i gael ein deddfwriaeth yn iawn.
“Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol ein rhaglen ddeddfwriaethol blwyddyn gyntaf uchelgeisiol ym mis Gorffennaf y llynedd a bydd cyhoeddiad ar flynyddoedd y dyfodol yn cael ei wneud gan y Prif Weinidog maes o law.”