Mae arweinydd y Democratiaid yng Nghymru wedi cyhuddo clymblaid y Ceidwadwyr a’r annibynwyr ar Gyngor Powys o “syrthio i anhrefn”.

Daw hyn yn dilyn ymddiswyddiad dau aelod o’r grŵp, sef y Cynghorydd Iain McIntosh a’r Cynghorydd James Evans, sydd bellach yn Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, oherwydd polisi ysgol wledig y grŵp.

Dywedodd James Evans ei fod am ganolbwyntio ar ei waith fel Aelod o’r Senedd gan fod rhannu’r baich rhwng gwaith y cyngor yn fwyfwy anodd.

Yn sgil yr ymddiswyddiadau mae gan y grŵp Ceidwadol 13 cynghorydd, sy’n golygu mai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bellach yw’r blaid wleidyddol fwyaf yn y cyngor gyda 14 aelod.

Mae Grŵp Ceidwadwyr Powys bellach wedi colli pedwar aelod yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r Cynghorydd Gwilym Williams a’r Cynghorydd Les Skilton yn symud gan eu bod nhw’n gwrthwynebu’r cynnydd yn y dreth gyngor a gafodd ei gefnogi gan y blaid yn gynharach eleni.

Collodd y grŵp y Cynghorydd Claire Mills hefyd ym mis Mai 2020 pan symudodd i Blaid Diddymu’r Cynulliad a cholli is-etholiad yng Ngogledd Llandrindod i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2019.

“Wrth i Dorïaid Powys ddisgyn i anhrefn dros eu hysgolion gwledig yn cau a chynnydd o 26% yn nhreth y Cyngor – ei dda yw gweld Lib Dems Powys yn dwyn y glymblaid Annibynnol-Dorïaidd i gyfrif,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ar Twitter.

“Ym mis Mai eleni cawn gyfle i ethol gwaith caled @WelshLibDemsledled Cymru!”

Agor mwy o gwestiynau

“Mae’r datblygiadau diweddar o fewn Ceidwadwyr Powys yn dangos beth yw plaid ranedig. Mae eu hysgolion gwledig yn cau yn bygwth calonnau ein cymunedau ar adeg y maent yn ceisio’u hailadeiladu ar frys yn dilyn y pandemig,” meddai James Gibson-Watt, arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ac arweinydd yr wrthblaid ar y Cyngor.

“Rydym yn y sefyllfa ryfeddol lle mae Ceidwadwyr Brycheiniog a Sir Faesyfed bellach yn prysur geisio ymbellhau oddi wrth benderfyniadau y maent wedi cyfrannu tuag atynt tra bod Arweinydd Ceidwadwyr Powys ar yr un pryd yn ysgrifennu at bapurau lleol yn canmol llwyddiant ymddangosiadol eu polisïau.

“Yn y cyfamser, er gwaethaf ymdrechion y Cynghorydd McIntosh a James Evans i ymbellhau oddi wrth benderfyniadau gwael y Cabinet a’r grŵp rheoli, mae eu hymddiswyddiadau ond yn agor mwy o gwestiynau.”

Yn dilyn ymddiswyddiad James Evans, sy’n cynrychioli Ward Gwernyfed, fydd dim is-etholiad.

O dan amgylchiadau arferol, byddai ymddiswyddiad yn sbarduno is-etholiad o fewn 35 diwrnod yn dilyn hysbysiad o swydd wag.

Fodd bynnag, o dan Adran 89(3) Deddf Llywodraeth Leol 1972, does dim modd cynnal etholiad os oes swydd wag wedi codi o fewn chwe mis i ddyddiad etholiad cyffredinol oni bai bod traean o gyfanswm yr aelodaeth yn wag.

Bydd y sedd yn parhau’n wag tan yr etholiad ym mis Mai a bydd Cynghorwyr cyfagos yn cynorthwyo gydag unrhyw waith yn y ward tan yr etholiad.

“Manteisio ar bob cyfle i atal cynnydd”

Mewn ymateb i feirniadaeth gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fe ddywedodd y Cynghorydd Aled Davies dros grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Powys:

“Roedd y cyn Weinidog Addysg Kirsty Williams yn angerddol am ei gweledigaeth.

“Mae gweledigaeth Kirsty yn cyd-fynd yn agos â’n Gweledigaeth ein hunain yma ym Mhowys.

“Ond mae hyn yn wahanol iawn i’w holynydd, AoS presennol y Democratiaid Rhyddfrydol [Jane Dodds] ynghyd â grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar y cyngor sir sy’n manteisio ar bob cyfle i atal cynnydd ac i atal ein buddsoddiad mewn ysgolion.

“Rwy’n llawn gwerthfawrogi teimladau cryfion ac emosiynau sydd ynghlwm i’n cynigion, ond ni fyddaf yn cefnu ar yr heriau sy’n ein hwynebu ble mae eraill yn y gorffennol wedi gwrthod eu derbyn oherwydd cyfleoedd gwleidyddol.”

Ychwanegodd fod gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun “uchelgeisiol” ar gyfer ysgolion ar draws Powys gan sicrhau y bydd pob person erbyn 19 oed wedi eu harfogi i “fyw, dysgu a chwarae.”