Mae galwadau wedi bod yn San Steffan am chwarae anthem Lloegr, God Save The Queen, ar sianeli cyhoeddus ar ddiwedd darlledu dyddiol.

Dywed Andrew Rosindell, Aelod Seneddol Ceidwadol Romford, y dylai darlledwyr cyhoeddus ystyried gwneud hynny, a byddai’n cynnwys y BBC, Channel 4 ac S4C.

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cynnig y dylai’r gorsafoedd ddarlledu anthem Lloegr, a Hen Wlad Fy Nhadau hefyd.

“Rwy’n gwybod y bydd y gweinidog yn cytuno bod canu’r anthem genedlaethol yn rhywbeth sy’n rhoi ymdeimlad mawr o undod a balchder yn ein cenedl, ac felly eleni o jiwbilî platinwm y Frenhines a wnaiff y gweinidog gymryd camau i annog darlledwyr cyhoeddus i chwarae’r anthem genedlaethol a sicrhau bod y BBC yn ei adfer ar ddiwedd rhaglennu’r dydd cyn iddo newid i Newyddion 24?” gofynnodd Andrew Rosindell.

Cafodd Nadine Dorries, yr Ysgrifennydd Diwylliant, ei chlywed yn ymateb gan ddweud: “cwestiwn arbennig”.

Ond Nigel Huddleston AS, Yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon atebodd.

“Rydym yn llwyr gefnogi canu’r anthem genedlaethol, Ei Mawrhydi’r Frenhines, a mynegiant eraill o wladgarwch, gan gynnwys hedfan Jac yr Undeb,” meddai.

“Po fwyaf y clywn ni’r anthem genedlaethol yn canu a dweud y gwir. Wrth gwrs, mae sefydliadau fel ysgolion yn rhydd i’w hyrwyddo, a’r mwyaf y gallwn ei wneud yn y maes hwn, gorau oll fydd hynny.”

Hen Wlad Fy Nhadau

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan ei gefnogaeth i sylw gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn dweud mai’r “Torïaid yw Plaid Genedlaetholgar Lloegr”.

“Cyn i’r teledu fynd yn 24 awr, cafodd Hen Wlad Fy Nhadau a God Save The Queen eu chwarae ar ddiwedd darllediadau,” meddai Andrew RT Davies.

“Byddwn wrth fy modd yn gweld hyn yn cael ei adfywio. Pa ffordd well o ddathlu ein Deyrnas Unedig?”