Mae dyn wedi pledio’n euog i dreisio menyw yng Nghaerdydd dros 40 mlynedd yn ôl, ar ôl i dechnoleg DNA alluogi’r heddlu i’w adnabod.
Fe wnaeth Roland Long, 67 oed o Nailsea yng Ngwlad yr Haf, gyfaddef cyflawni’r drosedd rywiol yng Nghaerdydd ar Awst 17, 1980.
Newidiodd ei ble yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau, Ionawr 5), ar ôl pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad yn wreiddiol.
Cafodd ei arestio ym mis Medi 2020 a’i gyhuddo fis Awst y llynedd, wedi i Heddlu’r De ailagor yr ymchwiliad yn 2019.
Ers hynny, mae e wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Mynnodd y Barnwr, Tracey Lloyd-Clarke, gael adroddiadau seiciatryddol cyn dedfrydu.
Fodd bynnag, wrth annerch Roland Long, dywedodd ei bod “yn anochel yn yr achos hwn y bydd dedfryd sylweddol o garchar”.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Chwefror 18.