Mae teyrngedau lu wedi eu rhoi i ddyn o Ben Llŷn fu farw ar ôl damwain jet-sgi yn Ghana yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Iwan Gwyn o Lanaelhaearn yn 49 oed yn dilyn y digwyddiad ar ynys ger y brifddinas Accra ddydd Iau, Rhagfyr 30.

Roedd wedi byw yn y wlad yn Affrica ers naw mlynedd, ac yn gweithio fel cyfarwyddwr prosiect adeiladu yno i gwmni Barbisotti, ar ôl gweithio yn Nulyn am gyfnod.

Yn ôl ei deulu, roedd ganddo gysylltiadau agos â Chlwb Rygbi Pwllheli, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Nefyn, lle bu’n chwarae am gyfnod.

Teyrngedau

Fe rannodd clwb Pwllheli eu cydymdeimladau ar gyfryngau cymdeithasol.

“Newyddion trist wedi’n cyrraedd am gollad Iwan Gwyn mewn damwain Jet Ski yn bell i ffwrdd y Affrica,” meddai’r clwb.

“Fe oedd Iwan yn gyn chwaraewr y Clwb a wedi ein cefnogi erioed. Fedrai ddim ond cydymdeimlo hefo’i deulu a ffrindiau ar rhan fy nheulu a pawb sy’n gysylltiedig a’r Clwb. Dydi bywyd ddim yn deg… CYSGA’N DAWEL IWAN.”

Fe wnaeth clwb Nefyn hefyd rannu neges, gan ddweud, “Rydym fel clwb yn dymuno anfon ein cydymdeimlad dwysaf i deulu ein cyn chwaraewr Iwan Gwyn yn dilyn newyddion trist y dyddiau diwethaf.”

Roedd Iwan yn briod â’i wraig Annie, ac mae’n gadael tri o blant, Ben, Megan a Laura.