Mae Boris Johnson wedi cael ei feirniadu gan ei gynghorydd safonau yn sgil ymchwiliad swyddogol i adnewyddu ei fflat yn Downing Street.

Ymddiheurodd y Prif Weinidog wrth yr Arglwydd Geidt gan nad oedd wedi gweld negeseuon rhyngddo fe a chydweithwyr Torïaidd a dalodd am yr ailwampio.

Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr Arglwydd Christopher Geidt, y cynghorydd annibynnol ar fuddiannau gweinidogol, ynghylch a oedd e wedi ceisio cael benthyciad dadleuol i adnewyddu ei gartref yn Downing Street.

Dywedodd yr Arglwydd Geidt ei fod yn dangos parch “annigonol” at ei rôl.

Ond ychwanegodd na fydden nhw wedi newid dyfarniad ei brawf ei hun y llynedd nad oedd Boris Johnson wedi torri’r côd ymddygiad gweinidogol, ond dywedodd y byddai rhai casgliadau wedi cael eu hailystyried.

Yn wreiddiol, fe ddywedodd Johnson wrth Geidt nad oedd wedi gofyn am fenthyciad o £52,000 gan y rhoddwr, yr Arglwydd David Brownlow.

Ond daeth ymchwiliad dilynol gan y Comisiwn Etholiadol o hyd i negeseuon WhatsApp, gan arwain at ailagor yr ymchwiliad.

Daeth i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf y bydd yr Arglwydd Geidt yn cael Boris Johnson yn ddieuog o dorri’r cod gweinidogol mewn “tri neu bedwar llythyr”, ond mae disgwyl iddo fod yn feirniadol iawn o’i ymddygiad.

Dywedodd ffynhonnell yn y llywodraeth sydd â gwybodaeth am yr ymchwiliad fod “y prif weinidog wedi dweud wrth Geidt nad oedd yn gweld negeseuon WhatsApp am iddo newid ei rif ffôn”.

Fis Ebrill, cafodd y Prif Weinidog ei orfodi i newid ei rif ffôn ar iddi ddod i’r amlwg fod ei rif wedi ei restru’n gyhoeddus ers 15 mlynedd.

Mae Boris Johnson yn dweud bod y negeseuon gyda Brownlow ar yr hen rif yma.

Dywedodd y prif weinidog nad oedd yn ymwybodol fod yr Arglwydd Brownlow wedi talu am yr ailaddurno o’i boced ei hun i ddechrau.

Dirwy

Ond wedi ailymweld â’r prawf gwreiddiol, daeth i’r amlwg fod y Prif Weinidog wedi anfon negeseuon WhatsApp at gyfeillion Torïaidd ym mis Tachwedd yn gofyn am gael awdurdodi gwaith pellach ar yr eiddo.

Cafodd y negeseuon eu datgelu fel rhan o ymchwiliad gan y Comisiwn Etholiadol, a roddodd ddirwy o £17,800 i’r Blaid Geidwadol fis diwethaf am fethu â datgan rhoddion yr Arglwydd Brownlow yn gywir.

Ar ôl i’r helynt ddod i’r amlwg, dadleuodd Downing Street nad oedd Boris Johnson wedi bod yn ymwybodol o “fanylion sylfaenol” rhoddion yr Arglwydd Brownlow.

Dywedodd llefarydd fod y Prif Weinidog wedi meddwl bod yr Arglwydd Brownlow yn goruchwylio’r arian, ond nad oedd yn sylweddoli bod ei gydweithwyr yn darparu’r arian.

Gwaith adnewyddu Downing Street: Prif Weinidog Cymru yn “hynod falch” y bydd ymchwiliad

Cynyddu mae’r pwysau ar Boris Johnson wedi i gwestiynau gael eu codi am ariannu gwaith ar ei fflat

Rhif ffôn Boris Johnson wedi bod ar gael ar-lein am 15 mlynedd

Cafodd rhif cyswllt ar gyfer y Prif Weinidog ei gynnwys ar waelod datganiad i’r wasg yn 2006