Bydd dyfodol darpariaeth chweched dosbarth yng Ngheredigion cael ei ystyried dros y misoedd nesaf.

Mae cais i gabinet Cyngor Sir Ceredigion i ganiatáu swyddogion i “sefydlu briff a chynnal adolygiad o addysg ôl-16” er mwyn ennyn trafodaeth ymysg cynghorwyr.

Caiff darpariaeth chweched dosbarth ei gynnig yn ysgolion uwchradd Aberaeron, Aberteifi, Bro Pedr, Bro Teifi, Penglais, a Phenweddig.

Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (Ionawr 11), bydd aelodau’r cabinet yn clywed bod 51 allan o 199 cwrs Safon Uwch yn y sir â llai na pum disgybl.

Mae darogan y bydd gan “bump allan o chwech o holl ddosbarthiadau chwech yng Ngheredigion lai na 150 o ddisgyblion”, sy’n is na beth mae’r Comisiwn Archwilio yn ei awgrymu er mwyn i’r gwasanaeth fod yn hyfyw.

Er hynny, mae disgwyl i gyfanswm disgyblion chweched y sir godi o 701 yn 2020 i 776 erbyn 2024.

Yn ôl dogfennau, cafodd addysg ôl-16 ei hadolygu ddiwethaf yn 2007-08.