Mae cyfraddau achosion Covid-19 wedi cynyddu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru dros y saith niwrnod diwethaf.

Blaenau Gwent oedd â’r gyfradd uchaf yn yr wythnos hyd at 2 Ionawr, gyda 3,077.7 achos i bob 100,000 person.

Blaenau Gwent welodd y cynnydd wythnosol mwyaf hefyd, wedi i’r cyfraddau neidio o 932.6 achos i bob 100,000 person yn yr wythnos flaenorol.

Mae’r cyfraddau yn agos iawn at 3,000 achos i bob 100,000 person yn Rhondda Cynon Taf (2973.0) a Merthyr Tudful (2927.6) hefyd.

Dros Gymru, mae’r gyfradd tua 2,200 achos i bob 100,000 person, ac mae’r gyfradd yn uwch na 2,000 yn 16 o’r 22 awdurdod lleol.

Absenoldebau staff

Mae salwch ymysg staff a hunanynysu wedi golygu bod rhaid i bedair uned genedigaethau yn y de wedi gorfod cau am 11 diwrnod.

Bydd unedau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Cansnewydd, Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, Ysbyty Aneurin Bevan, Glynebwy, ac Ysbyty Ystrad Fawr, Caerffili ar gau nes 17 Ionawr.

Fe fydd menywod sy’n disgwyl yn cael eu harallgyfeirio i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.

Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad er mwyn sicrhau diogelwch merched a’u babis.

Mae prinder staff gan fod pobol yn gorfod hunanynsyu wedi bod yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus yr wythnos hon, ac mae Gweinidog Addysg Cymru wedi dweud ei fod yn disgwyl gweld tarfu ar addysg wyneb yn wyneb yn yr wythnosau nesaf.

Adolygiad wythnosol diweddaraf

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad wythnosol diweddaraf fory (7 Ionawr), ond maen nhw eisoes wedi cyhoeddi ambell newid i brofion Covid a theithio rhyngwladol.

Nid oes gofyn i bobol sydd heb symptomau Covid, ond sy’n cael prawf llif unffordd positif, fynd am brawf PCR o heddiw (6 Ionawr) ymlaen.

Cafodd y newid ei wneud gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i gynyddu capasiti profion PCR, ond mae’n golygu ei bod hi’n bwysicach fyth bod pobol yn cofnodi canlyniad eu profion llif unffordd.

Os nad yw’r profion yn cael eu cofnodi, ni fydd hi’n bosib olrhain cysylltiadau, ac ni fydd y system yn gallu darparu cyngor i gysylltiadau.

Ers y Nadolig, mae’r galw am brofion PCR wedi bod yn “uwch nag erioed”, gyda hyd at 28,000 yn cael profion bob dydd.

Cyfraddau lleol

Mae’r cyfraddau fesul awdurdod fel a ganlyn.

Nodir enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 2 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ionawr 2; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 26; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 26.

Blaenau Gwent, 3077.7, (2155), 932.6, (653)

Rhondda Cynon Taf, 2973.0, (7191), 1382.5, (3344)

Merthyr Tudful, 2927.6, (1769), 1451.4, (877)

Castell-nedd Port Talbot, 2669.9, (3855), 1020.9, (1474)

Torfaen, 2639.4, (2503), 1242.2, (1178)

Pen-y-bont ar Ogwr, 2524.1, (3724), 1295.9, (1912)

Caerffili, 2497.6, (4539), 1096.1, (1992)

Abertawe, 2474.4, (6101), 1134.8, (2798)

Conwy, 2454.6, (2901), 1237.1, (1462)

Casnewydd, 2412.3, (3774), 1261.8, (1974)

Sir y Fflint, 2301.6, (3610), 1192.9, (1871)

Bro Morgannwg, 2156.0, (2917), 1304.6, (1765)

Wrecsam, 2141.0, (2913), 1095.9, (1491)

Caerdydd, 2133.0, (7875), 1399.8, (5168)

Sir Ddinbych, 2090.7, (2021), 1283.8, (1241)

Sir Gaerfyrddin, 2015.0, (3830), 860.2, (1635)

Ynys Môn, 1979.0, (1394), 1178.3, (830)

Gwynedd, 1934.2, (2421), 1283.8, (1607)

Powys, 1803.4, (2399), 799.1, (1063)

Ceredigion, 1802.6, (1314), 1282.7, (935)

Sir Benfro, 1712.0, (2170), 1002.8, (1271)

Sir Fynwy, 1442.8, (1373), 901.6, (858)