Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau Covid presennol yn aros yn eu lle yng Nghymru.
Mae Mark Drakeford yn gofyn i bobol barhau i gymryd camau “i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru” rhag y don o achosion Covid, yn dilyn canlyniad yr adolygiad wythnosol diweddaraf o’r rheoliadau.
Ar hyn o bryd mae mwy na 2,200 o achosion i bob 100,000 person yng Nghymru, ac mae achosion wedi codi’n sydyn i’w lefelau uchaf erioed.
Yn unol â lefel rhybudd 2, mae’n rhaid i bobol wneud y canlynol:
- Gwisgo gorchudd wyneb ymhob lle cyhoeddus dan do, gan gynnwys tafarndai, caffis a bwytai pan nad ydyn nhw’n eistedd.
- Peidio cyfarfod â mwy na 5 o bobol eraill mewn caffi, bwyty, tafarn neu le cyhoeddus arall (oni bai am eich aelwyd, os yw honno’n fwy na chwe pherson). Mae hyn yn berthnasol mewn ardaloedd dan do ac awyr agored yn y safleoedd hyn.
- Gweithio gartref os yn bosib.
- Hunanynysu am saith niwrnod os ydyn nhw’n cael canlyniad prawf positif am Covid-19. Dylai pobol gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 6 a 7. Os yw’r naill brawf neu’r llall yn bositif, dylen nhw barhau i hunanynysu nes iddyn nhw gael dau brawf llif unffordd negatif, neu ar ôl diwrnod 10, pa bynnag un sydd gynharaf.
Mae digwyddiadau dan do wedi’u cyfyngu i 30 person, a digwyddiadau wedi’u trefnu yn yr awyr agored wedi’u cyfyngu i 50 o bobol.
Rhaid i bob digwyddiad gael ei drefnu gan gorff cyfrifol, a rhaid llunio asesiad risg.
Dan y canllawiau, mae pobol yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau cryfach i’w helpu i gadw’n ddiogel gartref hefyd.
Mae hynny’n cynnwys cyfyngu ar faint o bobol maen nhw’n eu cyfarfod, profi cyn cymdeithasu, cwrdd â phobol yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd, a sicrhau bod mannau dan do wedi’u hawyru’n dda.
“Mis anodd”
Dywedodd Mark Drakeford fod y don Omicron yn golygu bod “mis anodd o’n blaenau”.
“Rydym eisoes yn gweld cyfraddau eithriadol o uchel o achosion mewn cymunedau a rhaid inni fod yn barod i achosion godi hyd yn oed yn uwch, yn union fel y maent mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae’n bosibl nad yw’r amrywiolyn hwn mor ddifrifol ag yr oeddem wedi’i ofni i ddechrau ond mae’r cyflymder y mae’n teithio a pha mor heintus ydyw yn parhau i fod yn destun pryder.
“Mae hynny’n ei gwneud yn hanfodol ein bod i gyd yn cymryd camau i ddiogelu ein gilydd. Bydd y pethau sydd wedi helpu i’n diogelu ni i gyd drwy gydol y pandemig yn parhau i’n diogelu yn awr.
“Mae hyn yn cynnwys cael eich brechu a gwneud eich pigiad atgyfnerthu yn flaenoriaeth, cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi’n cwrdd â nhw nad ydych chi’n byw gyda nhw, a chymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan a chymysgu ag eraill.”
Galw am gymorth ariannol
Cyn y cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod eisiau gweld cymorth ariannol i fusnesau’n cael ei gyhoeddi.
“Dau beth y dylid eu cyhoeddi ar frys fory yw rhyddhau cefnogaeth ariannol i’r busnesau hynny, yn enwedig yn y sector lletygarwch, sydd wedi dioddef oherwydd y rheolau hyn, ac eglurdeb am y canllawiau gweithio o gartref,” meddai Andrew RT Davies.
“Ni ddylai busnesau orfod aros hyd at 17 Ionawr er mwyn gwneud cais am gymorth – mae angen rhyddhau’r arian nawr.”
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ailystyried y penderfyniad i gyfyngu ar y nifer o bobol sy’n gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau megis parkruns, a chael gwared ar ddirwyon ar gyfer pobol sy’n mynd i’r gwaith a hwythau’n gallu gweithio o adre.
“Mae hi’n gynyddol glir bod yr amrywiolyn Omicron yn ffurf lai difrifol o’r coronafeirws a’r brif broblem sydd gennym ni yw’r angen i hunanynysu, sy’n effeithio ar bob math o wasanaethau, yn hytrach na nifer uchel o dderbyniadau i ysbytai a marwolaethau – sydd heb ddod i’r amlwg,” ychwanegodd Andrew RT Davies.
“Wrth i ni ddod drwy’r amser anodd hwn, bydd rhaid i ni, ymhen hwyr neu hwyrach, stopio siarad am symud ymlaen o’r pandemig, ond, yn hytrach, gwneud hynny gyda chydsyniad gwleidyddol.”