Mae pennaeth grwp lletygarwch Cymru wedi rhybuddio bod angen rhagor o gymorth ariannol “ar frys” i fusnesau lletygarwch er mwyn eu hatal rhag mynd i’r wal a swyddi’n cael eu colli.
Mae UKHospitality Cymru hefyd yn galw am godi cyfyngiadau yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn Nadolig a Blwyddyn Newydd “trychinebus” i fusnesau lletygarwch.
“Yn gyffredinol, mae lefelau masnachu is ac agweddau gofalus wedi golygu bod y Nadolig wedi bod yn anodd yn ein tafarndai, bwytai, gwestai a lletygarwch ehangach,” meddai David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol UKHospitality Cymru.
“Mae Nadolig a Blwyddyn Newydd drychinebus o dan y cyfyngiadau diweddaraf wedi gadael llawer yn wynebu sefyllfa ariannol beryglus gyda grantiau’n is na’r hyn sydd ei angen.
“Yn benodol, nid yw cadw staff ar gymorth presennol y Llywodraeth yn gynaliadwy.
“Mae clybiau nos Cymru ar gau ond mae disgwyl iddyn nhw gadw eu holl staff, am gyfnod o ddau fis efallai, gyda grant sydd ddim hyd yn oed yn gyfystyr ag elw noson brysur.
“Yn y cyfamser mae clybiau yn Lloegr yn adrodd bod llai o bobl yn mynychu a cholledion trwm, hyd yn oed heb y cyfyngiadau sydd wedi cael eu gosod yng Nghymru – mae refeniw o leiaf 25% yn is na dros y ffin ar hyn o bryd.
“Os nad yw cymorth ariannol ar gael yn gyflym, mae effeithiau masnachol difrifol yn anochel, a fydd yn niweidio cymunedau ledled Cymru.”
Cymorth ariannol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy o arian ar gyfer busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau diweddaraf.
Fel rhan o’r pecyn cymorth newydd, bydd £120m o gyllid ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, yn ogystal â’u holl gadwyni cyflenwi sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau newydd.
Bydd gan fusnesau cymwys sy’n talu Ardrethi Annomestig hawl i gymhorthdal o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn ddibynnol ar eu gwerth, a bydd modd cofrestru ar gyfer yr arian o ddydd Llun, Ionawr 10.
Gallan nhw hefyd wneud cais am grantiau rhwng £2,500 a £25,000 drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd newydd, sy’n agor wythnos yn ddiweddarach ar ddydd Llun, Ionawr 17.
Fe fydd maint y grant yn dibynnu ar faint y busnes a nifer y gweithwyr, ond fe all ymgeiswyr wirio ar-lein a ydyn nhw’n gymwys am grant.