Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mwy o arian ar gyfer busnesau sy’n cael eu heffeithio gan yr amrywiolyn Omicron.

Fel rhan o’r pecyn cymorth newydd, bydd £120m o gyllid ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, yn ogystal â’u holl gadwyni cyflenwi sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau newydd.

Cyhoeddodd y llywodraeth ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 22) y bydd Cymru yn symud i rybudd lefel dau, gyda chyfyngiadau ar nifer y bobol sy’n gallu ymgynnull yn gyhoeddus.

Bydd gan fusnesau cymwys sy’n talu Ardrethi Annomestig hawl i gymhorthdal o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn ddibynnol ar eu gwerth, a bydd modd cofrestru ar gyfer yr arian o ddydd Llun, Ionawr 10.

Gallan nhw hefyd wneud cais am grantiau rhwng £2,500 a £25,000 drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd newydd, sy’n agor wythnos yn ddiweddarach ar ddydd Llun, Ionawr 17.

Cyllid

Dywed Llywodraeth Cymru mai eu bwriad yw sicrhau, wrth ddarparu arian i fusnesau manwerthu, fod y “stryd fawr yn parhau i ffynnu”.

“Rydym yn deall yn iawn yr heriau parhaus sy’n wynebu busnesau, ond rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Mae ton o heintiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron newydd, sy’n symud yn gyflym ac sy’n heintus iawn ar y ffordd atom, mae hyn yn golygu cymryd camau cynnar i geisio rheoli ei ledaeniad – a chyfyngu ar yr effaith ar fusnesau Cymru.

“Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi darparu dros £2.2bn o gymorth i fusnesau ledled Cymru i’w helpu i lywio eu ffordd drwy amgylchiadau anodd.

“Byddwn yn parhau i fonitro effaith lledaeniad Omicron ar fusnesau yng Nghymru, a byddwn yn ystyried a oes angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd.”