Bydd mesurau Covid-19 newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o 6yb o Ŵyl San Steffan ymlaen yng Nghymru.
Bydd y rheol o ddim mwy na chwech o bobol yn dod i rym pan fydd pobol yn ymgynnull mewn lleoliadau sy’n cael eu rheoleiddio, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheolau newydd ynglŷn â chymdeithasu yng nghartrefi preifat pobl, gan gynnwys gerddi, mewn llety gwyliau nac wrth gwrdd yn yr awyr agored.
Yn hytrach, bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd.
Er hynny, ni fydd mwy na 30 o bobol yn cael ymgynnull mewn digwyddiad dan do, ac ni fydd mwy na 50 yn cael ymgynnull yn yr awyr agored.
Bydd eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant.
Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn Omicron newydd, meddai Llywodraeth Cymru.
Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff, meddai’r Llywodraeth.
Rheoliadau
Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi bod clybiau nos yn cau ddydd Llun, 27 Rhagfyr, a bydd mesurau megis ymbellhau cymdeithasol ar waith mewn busnesau a swyddfeydd.
Fe rydd rhain nawr yn dod i rym ar Ddydd San Steffan yn hytrach na 27 Rhagfyr.
O Ddydd San Steffan ymlaen, bydd rhaid i ddigwyddiadau chwaraeon gael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeedig hefyd.
Bydd £120m ar gael i glybiau nos a busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth y mae’r newid hwn i lefel rhybudd 2 yn effeithio arnyn nhw – dwbl y pecyn £60m newydd a gyhoeddwyd wythnos diwethaf.
O Ddydd San Steffan ymlaen, bydd y mesurau lefel rhybudd 2 yn cynnwys:
- Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle, pan fo hynny’n rhesymol.
- Bydd y rheol chwech o bobl mewn grym pan fydd pobl yn ymgynnull mewn lleoliadau a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
- Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
- Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
- Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.
- Bydd yna eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant
Cyngor cryf
I helpu pobol i ddiogelu eu hunain yn eu cartrefi, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori’n gryf fod pawb yn gwneud y pump peth canlynol:
- Cyfyngu nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref.
- Os bydd pobl yn ymweld, sicrhau eu bod yn gwneud prawf llif unffordd yn y bore cyn yr ymweliad.
- Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well nag o dan do. Os byddwch yn cwrdd o dan do, gadewch ddigon o awyr iach i mewn i’r ystafell.
- Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau.
- Cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo.
Bydd trosedd ar wahân am gynulliadau mawr – dros 30 o bobl o dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored – mewn cartrefi a gerddi preifat.
Hunanynysu
Ni fydd rhaid i bobol sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun â Covid-19 hunanynysu os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn o hyd yn ymlaen, meddai Mark Drakeford.
Yn hytrach, bydd rhaid iddyn nhw gymryd prawf llif unffordd bob diwrnod am saith niwrnod.
Bydd pobol sy’n cael profion dyddiol negyddol yn gallu parhau i fynd i’r gwaith fel yr arfer, gan ddilyn yr holl gamau i gadw eu hunain yn ddiogel, gan gynnwys cyfyngu ar faint o bobol maen nhw’n cymysgu gyda nhw, meddai Mark Drakeford.
Bydd rhaid i bobol sydd heb gael dau ddos o’r brechlyn ac sy’n cael eu hadnabod fel cyswllt agos i rywun â Covid-19 hunanynysu.
“Sefyllfa ddifrifol”
Dywedodd Mark Drakeford: “Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae’r amrywiolyn Omicron newydd yn heintus iawn ac mae’n lledaenu’n gyflym. Mae ton o heintiau o’n blaenau.
“Gallai’r math newydd hwn o’r coronafeirws heintio niferoedd mawr o bobl yng Nghymru, gan amharu ar fywydau pobl a busnesau. Gallai achosi cynnydd yn nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty yn yr wythnosau nesaf.
“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu iechyd a bywoliaethau pobl yng Nghymru. Mae hyn yn golygu gweithredu’n gynnar i geisio rheoli ei ledaeniad.
“Rydyn ni’n newid y rheolau ar gyfer busnesau a rhai mannau cyhoeddus, lle mae llawer o wahanol bobl yn cymysgu bob dydd. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyngor cryf a chlir i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill.”
“Y peth pwysicaf y gallwn ni gyd ei wneud i ddiogelu ein hunain rhag Omicron yw cael ein brechu’n llawn – sy’n golygu cael y pigiad atgyfnerthu hefyd. Os ydych chi’n gymwys am bigiad atgyfnerthu, rwy’n erfyn arnoch i roi blaenoriaeth i’w gael yn yr wythnosau nesaf,” ychwanegodd.
“Wrth inni dreulio gaeaf arall yn y pandemig, mae llawer iawn o bobl wedi’u brechu ac mae degau o filoedd o bigiadau atgyfnerthu ychwanegol yn cael eu rhoi bob dydd.
“Yn ogystal, mae’r profion llif unffordd cyflym ar gael i’n helpu ni gyd i ganfod arwyddion haint heb symptomau.
“Bydd y ddau beth hyn, ynghyd â phopeth rydyn ni wedi’i ddysgu yn y ddwy flynedd diwethaf, yn helpu i’n diogelu gartref heb yr angen am reolau a rheoliadau newydd ynglŷn â chymysgu gartref.”